Mae Janet Finch-Saunders AS Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn galw am iddo adolygu arferion cyfredol y sector cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer caffael bwyd a diod. Mae Mrs Finch-Saunders yn credu bod yn rhaid addasu’r mesurau cyfredol fel y gellir cefnogi’n well cynhyrchwyr a ffermwyr Cymru.
Mae’r sector cyhoeddus yn cyfrannu’n sylweddol at wariant bwyd a diod yng Nghymru, ac amcangyfrifir bod y gwariant hwn yn £78 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2015/16. Yn ôl ffigurau a ryddhawyd gan yr Archwilydd Cyffredinol Cymru, roedd hyn yn cynnwys gwariant o £53 miliwn gan lywodraeth leol; gwariant o £20 miliwn gan fyrddau iechyd; gwariant o £2 filiwn gan lywodraeth ganolog a chyrff a noddir; a gwariant o £2 filiwn gan sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch.
Gan sôn am ei llythyr i’r Prif Weinidog, dywedodd:
“Mae’r cyfnod adfer o COVID-19 yn rhoi cyfle i fynd ati o ddifrif i gefnogi ein cyflenwyr yma yng Nghymru. Rydw i wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog yn galw am adolygiad o arferion caffael y sector cyhoeddus, er mwyn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario ar gael mynediad i fwyd maethlon o ansawdd a dyfir yng Nghymru.
“Byddai mesurau newydd yn creu gwell cyfleoedd i fusnesau bwyd a diod o Gymru, gan gylchdroi arian cyhoeddus yn y llefydd y caiff ei fuddsoddi. Byddai’n arwydd amlwg iawn o gefnogaeth i’r sector hwn, wrth i’w cynnyrch ychwanegu’n fawr at yr hyn a gynigir mewn prydau bwyd mewn ysgolion, ysbytai, safleoedd y lluoedd arfog ac adeiladau awdurdod lleol yng Nghymru.
“Fel y mae ar hyn o bryd, mae’r rheolau cyfredol yn rhwystr diangen syn atal cynhyrchwyr lleol rhag ennill contractau cyhoeddus gwerthfawr. Dychmygwch am eiliad y gwahaniaeth y gallai gwariant blynyddol o £78 miliwn ei wneud i’r sector petai’r holl gyllideb caffael hwnnw’n cael ei wario yng Nghymru ar gynnyrch o Gymru.
“Byddai rhoi arferion caffael newydd ar waith yn rhoi cymaint â phosibl o gefnogaeth i fusnesau lleol sy’n darparu cyfleoedd cyflogaeth hanfodol, byddai’n sicrhau’r safonau lles uchaf wrth symud ymlaen ac yn ffordd synhwyrol a blaenllaw o ymateb i’r argyfwng hinsawdd.”
DIWEDD