Yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos hon y bydd Llywodraeth y DU yn cynyddu’r tâl am fagiau untro yn Lloegr i 10c o Ebrill 2021, mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr un peth.
Dywedodd Gweinidog yr Wrthblaid:
“Mae Cymru ar ei hôl hi yn y rhyfel ar wastraff plastig. Er fy mod yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â chynnig y Ceidwadwyr Cymreig i wahardd plastigau un defnydd, mae modd gwneud mwy.
“Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau untro, ond mae angen i ni ddatblygu hyn er mwyn sicrhau gostyngiadau pellach mewn defnydd. Mae angen gweithredu’n bendant yn y rhyfel yn erbyn plastig, felly mae’n bryd i Lywodraeth Cymru gynyddu’r tâl gorfodol lleiaf o 5c i 10c.
“Gwelodd Llywodraeth y DU fod mwyafrif sylweddol o ymatebwyr o blaid y penderfyniad- 74% o’r cyhoedd a 71% o sefydliadau. Mae momentwm yn Lloegr, a chredaf fod gennym yr un angerdd dros leihau ein dibyniaeth ar fagiau plastig untro a diogelu'r amgylchedd yma yng Nghymru.
“Pam llusgo traed ac oedi? Gall Llywodraeth Cymru fwrw iddi yn hawdd yn y rhyfel yn erbyn gwastraff plastig yng Nghymru”.
DIWEDD
Nodiadau: