Heddiw (04 Medi), cafwyd adroddiad gan yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy - Janet Finch-Saunders AS - am y cynnydd cadarnhaol a wnaed ar gynigion ar gyfer llwybr beicio/troed sy'n cysylltu Cyffordd Llandudno â Glan Conwy trwy RSPB Conwy, yn sgil cyfarfod llwyddiannus o randdeiliaid allweddol a drefnwyd ganddi ac a gynhaliwyd ar bellter cymdeithasol yn RSPB Conwy.
Bu’r gymuned yn galw am i'r cynllun gael ei weithredu er 2004, ac erbyn hyn mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gynllun sy'n cyfateb i safonau teithio llesol. Fodd bynnag, mae angen cydweithredu pellach gyda'r RSPB a Network Rail.
Wrth sôn am ei chyfarfod o randdeiliaid, dywedodd Janet:
“Roedd yn bleser gallu dod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd yn RSPB Conwy. Hoffwn ddiolch i RSPB, Network Rail, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cycling UK, a'r holl etholwyr sydd wedi gweithio gyda mi i wneud y cyfarfod yn bosibl.
“Mae’r cynllun wedi bod yn symud yn araf yn rhy hir o lawer, ond rwyf wedi gadael y cyfarfod yn hyderus fod y sefyllfa wedi cael sylw a bod yr holl randdeiliaid yn gwybod pa gamau sydd angen eu cymryd i gael y llwybr beicio yn ôl ar y trywydd iawn.
“Byddaf yn parhau i bedalu’r prosiect hwn yn ei flaen er mwyn ceisio sicrhau bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dod â’r prosiect i fwcwl.
“Mae’n bwysig deall bod yr holl randdeiliaid a oedd yn bresennol yn frwd dros y cynllun, ac yn sylweddoli ei fod yn ddarn hanfodol o bos jig-so teithio llesol Gogledd Cymru. Unwaith y bydd ar waith, gallwn fynd ati i gysylltu Dyffryn Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri, sy'n brosiect hynod gyffrous i Aberconwy ac i amgylchedd Cymru”.
DIWEDD
Nodiadau:
Rhanddeiliaid yn y cyfarfod: Mr Victor Turner (ERF, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC)); Mr Richard Snarr (ERF, CBSC); Mr Dan Brookfield (Network Rail); Ian Smyth (Network Rail); Mr John Mather (Cycling UK); Ms Helen Jowett (RSPB); etholwr â diddordeb; a Janet Finch-Saunders AS.