Heddiw (10 Medi), cefnogodd Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - alwadau gan sawl ffermwr amlwg yng Nghymru ar i ddiwydiant ffasiwn y DU ddefnyddio mwy o wlân y genedl yn eu cynhyrchion.
Daw ei hymyrraeth ar ôl i’r Aelod anfon llythyr at Ei Fawrhydi Brenhinol Tywysog Cymru, fel Noddwr y Campaign for Wool, yn gofyn am gyfarfod gyda swyddog o’r sefydliad i drafod sut y gellid hyrwyddo’r ffeibr naturiol a chynaliadwy Cymreig hwn yn well i wneuthurwyr. Roedd y diwydiant ffasiwn yn werth £32 biliwn i economi'r DU yn 2017.Roedd hyn yn gynnydd o 5.4% ar 2016, gyda graddfa dwf o 1.6% yn uwch na gweddill yr economi.
Gan roi sylwadau ar yr ymyrraeth, dywedodd Janet:
“Mae hon wedi bod yn flwyddyn anodd iawn i ffermwyr defaid Cymru, a thrist yw clywed bod llawer o gynhyrchwyr wedi gwneud y penderfyniad anodd i losgi’r ffeibr gan fod pris gwlân wedi disgyn mor ofnadwy yn sgil COVID-19.
“Dyna pam fy mod i hefyd yn galw ar y prif gynllunwyr ffasiwn, manwerthwyr a gwneuthurwyr i gefnogi diwydiant gwlân Cymru drwy ddefnyddio mwy o’r ffeibr naturiol ac iachus hwn yn eu cynhyrchion.
“Rydw i bellach wedi ysgrifennu at Dywysog Cymru, fel Noddwr y Campign for Wool, i wneud cais i gyfarfod â swyddog o’r sefydliad dylanwadol hwn er mwyn trafod sut y gellir hyrwyddo gwlân ymhellach fel ffeibr ffasiynol, ym Mhrydain a thu hwnt.
“Mae’r Campaign for Wool wedi bod yn hollbwysig yn addysgu defnyddwyr am ba mor amlbwrpas yw gwlân. Gyda’u cefnogaeth, gall gwlân Cymru fod yn bwysig iawn yn y diwydiant ffasiwn cynaliadwy ledled y byd.”
DIWEDD