Heddiw (05 Hydref), mae Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig – Janet Finch-Saunders AS – wedi croesawu cychwyn 10fed Wythnos Wlân flynyddol yr Ymgyrch dros Wlân, gan dynnu sylw at hynny drwy ysgrifennu at amrywiaeth o weithgynhyrchwyr a gwerthwyr deunydd gwely i’w hannog i gefnogi’r ymgyrch.
Mae'r Ymgyrch dros Wlân yn gymuned fyd-eang gydweithredol sy'n cael ei huno gan ei noddwr Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru. Ei nod yw addysgu cynifer o bobl â phosibl am fanteision a hyblygrwydd gwlân ym myd ffasiwn, dodrefn a bywyd bob dydd.
Fis diwethaf, lansiodd Mrs Finch-Saunders ei Haddewid Gwlân Cymreig a anogodd Lywodraeth Cymru i ystyried gwneud y defnydd o Wlân Cymreig yn orfodol wrth ddodrefnu adeiladau cyhoeddus.
Wrth groesawu lansiad Wythnos Wlân 2020, dywedodd Janet:
“Mae Wythnos Wlân yr Ymgyrch dros Wlân wedi bod yn ymdrech aruthrol i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r deunydd naturiol rhyfeddol hwn. Ers mis Hydref 2010, mae wedi dathlu a hyrwyddo diwydiant gwlân sy'n amgylcheddol gyfrifol, yn gynaliadwy ac yn fasnachol hyfyw.
“Pan fyddwch chi'n pwyso a mesur rhinweddau gwlân Cymreig, mae ei briodweddau’n berffaith ar gyfer deunydd gwely a duvets. Mae'r ffibrau naturiol yn cael eu crebachu, a phan gânt eu pacio'n dynn gyda'i gilydd, maent yn ffurfio miliynau o bocedi bach iawn o aer. Mae'r strwythur unigryw hwn yn caniatáu iddo amsugno a rhyddhau lleithder heb danseilio ei effeithlonrwydd thermol.
“Credir nad yw’n achosi alergeddau ac nid yw'n hyrwyddo twf bacteria. Ar ddiwedd ei oes ddefnyddiol, gellir dychwelyd y ffibr hwn i'r pridd lle gall bydru, gan ryddhau maetholion gwerthfawr i'r ddaear. Mae'n pydru mewn byr o amser o gymharu â'r rhan fwyaf o ddeunyddiau synthetig.
“Dyna pam rwyf wedi dechrau'r Wythnos Wlân hon drwy ysgrifennu at amrywiaeth o weithgynhyrchwyr a gwerthwyr deunydd gwely blaenllaw i ofyn iddynt fynd ati i hyrwyddo Gwlân Cymreig fel cynnyrch deunydd gwely cynaliadwy. Gyda'u cefnogaeth nhw, gall gwlân Cymreig wneud cyfraniad allweddol at y diwydiant deunydd gwely cynaliadwy.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Gall partïon â buddiant lofnodi i gefnogi'r Adduned Gwlân Cymreig drwy fynd i: https://www.janetfinchsaunders.org.uk/sign-welsh-wool-pledge