Heddiw (15 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Tasglu Troseddau Cefn Gwlad newydd i Gymru, wrth i ffigurau newydd ddatgelu bod cost llosgi bwriadol ar ffermydd Prydain wedi codi 40%.
Mewn cwestiwn ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru, gofynnodd Gweinidog yr Wrthblaid:
Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd ar ôl canfod bod cyfanswm y gost am ddifrod llosgi bwriadol ar ffermydd wedi codi 40% y llynedd?
Yng Nghymru, cynyddodd hawliadau tân ffermydd NFU Mutual o £900,000 yn 2018 i £3.2 miliwn yn 2019. Yn ôl ffigurau hawliadau cychwynnol yr yswirwyr cefn gwlad rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2020, mae cynnydd wedi’i weld mewn achosion a chostau, gan awgrymu y gallai 2020 fod â’r ffigurau uchaf ers chwe blynedd diwethaf.
Yn trafod ei phryder am y cynnydd, dywedodd Janet:
“Rwy’n bryderus iawn ynghylch y datganiad bod cost llosgi bwriadol ar ffermydd wedi codi 40% y llynedd, gyda chyfanswm yr hawliadau tân gan un yswiriwr gwledig gan ffermydd yng Nghymru wedi cynyddu o 256%. Felly, rwyf wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu tasglu cenedlaethol newydd i glywed gan bawb sydd wedi’u heffeithio.
“Yn fy sgyrsiau gyda ffermwyr Cymru, mae’n amlwg bod llawer yn teimlo’n fregus dros ben eleni, gyda nifer cynyddol yn troi at dechnolegau fel systemau camerâu o bell i atal llosgwyr bwriadol.
“Mae llawer o ffermwyr yn teimlo bellach bod yn rhaid iddynt weithredu o’u pen a’u pastwn eu hunain, gydag arolwg sector cyfan diweddar yn datgelu nad oedd 56% o ymatebwyr a roddodd wybod am droseddau yn y blynyddoedd diwethaf yn fodlon gyda’r ymateb.
"Fel y dywedodd y Gynghrair Cefn Gwlad, mae plismona cefn gwlad da yn golygu llawer mwy na niferoedd yr heddweision ar lawr gwlad. Mae’n rhaid i ni ffurfio partneriaethau effeithiol sy’n sicrhau bod Awdurdodau Lleol, Cynghorau Tref a Chymuned yn cyfrannu ar drafodaethau am y mater.
“Fel clymblaid o randdeiliaid sy’n deall anghenion a phryderon gwledig, byddai fy nghynigion am Dasglu Cefn Gwlad Cenedlaethol newydd i Gymru yn sicrhau bod y cymunedau hyn yn cael eu hadlewyrchu’n well wrth wneud penderfyniadau, er mwyn cael mwy o hyder mewn ymdrechion i fynd i’r afael â throseddu cefn gwlad.”
DIWEDD