Mae Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – wedi annog Llywodraeth Cymru i fod yn fwy tryloyw wrth ddelio â chymunedau sydd wedi dioddef llifogydd, wrth iddi groesawu adnodd digidol newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Mae CNC wedi diweddaru ei wasanaeth mapio llifogydd ar-lein sy’n ceisio dod â data llifogydd perthnasol a chywir i bobl Cymru. Mae’r asiantaeth yn dweud bod y data newydd, a gasglwyd rhwng 2017 a 2019, ar gael i’w ddefnyddio nawr i gynllunio ar gyfer achosion o lifogydd a datblygu cynlluniau rheoli llifogydd ledled y wlad. Mae’r diweddariad yn cyd-daro â lansiad Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru.
Meddai Janet:
“Er fy mod yn croesawu’r cam cyntaf hwn at fwy o dryloywder gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda’u hadnodd digidol yn darparu data hanfodol i’r preswylwyr i’w helpu i gynllunio ar gyfer achosion llifogydd yn y dyfodol, dylid ond ei ystyried fel y cam cyntaf tuag at broses mwy tryloyw a rhagweithiol i ddiogelu cartrefi a bywoliaethau.
“Felly, rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i beidio â llaesu ei dwylo, gan gredu bod y rhodd ddigidol symbolaidd hon yn golygu bod y gwaith ar ben. Ar ôl adolygu strategaeth llifogydd newydd y weinyddiaeth, rwy’n bryderus iawn am y diffyg symud ar alwadau am adolygiadau annibynnol. Dyma’r man cychwyn i sicrhau bod cymunedau yn cymryd rhan go iawn yn y broses o amddiffyn rhag llifogydd.
“Rydw i hefyd wedi galw’n gyson ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phryderon am ddarpariaeth adroddiadau swyddogol, gan ofyn iddynt bennu amserlen statudol resymol ar gyfer y cyhoeddiadau hyn er mwyn sicrhau nad yw cymunedau yn cael eu gadael ar eu hôl wrth aros am dryloywder a fydd yn caniatáu iddynt ailafael yn eu bywydau yn y dyfodol. Unwaith eto, does dim wedi ei wneud gyda hyn ‘chwaith.
“Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif am ei hymrwymiad i ymgysylltu’n rhagweithiol â’r gymuned fel ffordd o ddatblygu strategaethau atal llifogydd lleol, yna mae’n rhaid cyflawni’r pwyntiau brys hyn. Ni fydd darpariaeth data a mapiau yn fawr o gysur i’r preswylwyr hynny sy’n dal i ddioddef effeithiau digwyddiadau llifogydd trychinebus ar ddechrau’r flwyddyn.”
DIWEDD