Heddiw (28 Hydref), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi croesawu neges o gefnogaeth gan Bartneriaeth John Lewis, sydd wedi ymrwymo i gynnwys gwlân o ansawdd uchel o’r DU mewn cynnyrch amrywiol sydd ar werth ganddynt.
Dyma’r diweddaraf yn hanes ymgyrch Addewid Gwlân Cymru, sy’n annog Aelodau etholedig y Senedd i ymrwymo i hyrwyddo priodweddau’r ffeibr naturiol hwn. Dros yr wythnosau diwethaf, mae Janet wedi ysgrifennu at fanwerthwyr dillad gwely a charpedi, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, i ofyn iddynt adolygu eu polisïau prynu.
Ar yr un trywydd, mae NFU Cymru hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn cefnogi sector gwlân Cymru yn ystod ei ymgyrch elusennol ddiweddaraf. Ar ôl codi £4,000 i’r Sefydliad DPJ drwy werthu crysau polo a gilets brand, mae’r undeb bellach yn gwerthu bandiau pen gyda’r logo ‘She Who Dares… Farms’ i godi mwy o arian i’r elusen iechyd meddwl.
Meddai Janet:
“Wrth bwyso a mesur rhinweddau gwlân Cymru, mae’n amlwg bod ei nodweddion yn berffaith ar gyfer dillad gwely a charpedi. Mae ei strwythur unigryw yn golygu y gall amsugno a rhyddhau lleithder heb gyfaddawdu ei effeithlonrwydd thermol. Dydy gwlân ddim yn achosi alergeddau ‘chwaith, nac yn hybu sbarduno twf bacteria.
“Dyna pam i mi nodi’r Wythnos Wlân eleni drwy ysgrifennu at fanwerthwyr dillad gwely a charpedi cenedlaethol i ofyn iddynt adolygu eu polisïau prynu. Mae’r pandemig wedi effeithio’n fawr ar bris gwlân ac felly gall ein manwerthwyr chwarae rhan hanfodol i gefnogi ffermwyr Cymru drwy addasu’r deunyddiau y maen nhw’n eu defnyddio yn eu cynhyrchion.
“Rydw i wrth fy modd bod Partneriaeth John Lewis wedi cydnabod bod y ffeibr hwn yn un gwydn a chynaliadwy. Rydw i hefyd yn croesawu’r ffaith bod y Bartneriaeth yn cael eu ffeibr gan gynhyrchwyr o Brydain ac y bydd yn parhau i sicrhau bod eu harferion prynu o fudd i ffermwyr ein gwlad.
“Maen nhw’n esiampl i fanwerthwyr eraill, ac yn anogaeth iddynt ymrwymo i adolygu eu harferion prynu hefyd. Mae llawer o dyddynwyr Cymru yn barod i gyflenwi cnu ac edafedd, a gall llawer o gwmnïau nyddu a gwehyddu ledled cefn gwlad Cymru helpu’r broses weithgynhyrchu yn lleol.
“Rydw i hefyd am ganmol NFU Cymru am eu syniad gwych, nid yn unig i godi ymwybyddiaeth o elusen gwerth chweil a phwysig, ond hefyd i gefnogi sector gwlân Cymru, sydd gwir angen y cymorth. Hoffwn i bawb geisio cefnogi’r ymgyrch hon, a’n ffermwyr, drwy brynu band pen Eira.”
DIWEDD