Heddiw (03 Tachwedd), mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi galw am archwiliad annibynnol o’r Cynllun Datblygu Gwledig, yn dilyn pryderon am ddiffiniad diwygiedig arfaethedig o ddatblygu gwledig.
Daw ei galwadau yn dilyn Cwestiwn Ysgrifenedig y mae Mrs Finch-Saunders wedi’i gyflwyno i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Pa gamau y mae’r Gweinidog yn eu cymryd i roi archwiliad annibynnol o’r Cynllun Datblygu Gwledig ar waith, o ystyried y pryderon a fynegwyd gan randdeiliaid am y diffiniad diwygiedig arfaethedig o ddatblygu gwledig?
O dan reolau Senedd Cymru, cynghorir Gweinidogion i ateb Cwestiynau Ysgrifenedig o fewn saith/ wyth diwrnod ond nid oes rheidrwydd arnynt i wneud hynny. Cyhoeddir yr holl atebion ysgrifenedig yng Nghofnod y Trafodion.
Meddai Janet:
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod pryderon am y diffiniad diwygiedig arfaethedig o ddatblygu gwledig, a fydd yn rhoi blaenoriaeth i amcanion amgylcheddol dros amcanion cymunedau gwledig. Mae angen archwiliad annibynnol er mwyn gallu ystyried newidiadau angenrheidiol.
“Mae Llywodraeth Llafur Cymru wedi mynd yn llawer rhy gyfforddus yn swigen Bae Caerdydd, gan anwybyddu anghenion cefn gwlad Cymru yn gyson. Fel y dengys y diffiniad arfaethedig hwn, maen nhw’n canolbwyntio ar orfodi biwrocratiaeth ormodol ar ein ffermwyr yn hytrach na mynd i’r afael â materion hanfodol gyda gwasanaethau a seilwaith cefn gwald.
“Bydd archwiliad annibynnol, a fydd yn clywed gan yr holl randdeiliaid perthnasol, hefyd yn sicrhau bod pryderon dilys am y ffordd y mae’r weinyddiaeth hon wedi mynd i’r afael â chyllid y cynllun yn cael eu trafod yn llawn. Mae’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r Cynllun Datblygu Gwledig ar waith wedi bod yn dameidiog ac araf.
“Mae angen gwario pob ceiniog o arian y trethdalwr yn ofalus ac yn effeithiol. Dylai Llywodraeth Cymru fod â chywilydd o ganfyddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef bod £53 miliwn o arian y Cynllun Datblygu Gwledig wedi’i ddyfarnu heb sicrhau y byddai’r grantiau yn sicrhau gwerth am arian.
“Mae’n rhaid rhoi diwedd ar y ffordd mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd ceisiadau cyllid gan gyrff dethol heb gofnodi pam, yn rhoi arian ychwanegol i brosiectau sydd ar y gweill heb yn gyntaf bwyso a mesur eu llwyddiant, a’u diffyg goruchwyliaeth o raglenni a phrosiectau.
“Byddai Llywodraeth y Ceidwadwyr Cymreig yn dangos arweinyddiaeth dryloyw ac effeithiol ac yn rhoi’r un chwarae teg i’n hardaloedd gwledig, gan ddatblygu economi wledig yng Nghymru sy’n addas ar gyfer y dyfodol a lle mae pobl o bob oed yn gallu byw, gweithio a ffynnu.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
- Mae adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gael yma.