Heddiw (06 Tachwedd), ) mae Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - wedi nodi diwedd Wythnos Newid Hinsawdd Cymru 2020 trwy erfyn ar Lywodraeth Cymru i fyfyrio ar ei diffyg gweithredu ar y mater pwysig hwn.
Mae Gweinidog yr Wrthblaid wedi defnyddio’r wythnos i ofyn cwestiynau perthnasol am ynni dŵr, am botensial y sector batris ac effaith prosiect gwers biomas ar ansawdd aer. Cofnodir Cwestiynau Ysgrifenedig yr Aelod ar gofnod y trafodion Senedd Cymru.
Meddai Janet:
“Er fy mod yn croesawu menter Wythnos Newid Hinsawdd Cymru, mae’n ffaith drist a diymwad bod Llywodraeth Llafur Cymru wedi methu rhoi ystyriaeth o ddifrif i newid hinsawdd, gyda chynllun annelwig heb ei gostio o fynd i’r afael â’r mater. Mae ymdrechion i gynhyrchu ynni glân adnewyddadwy wedi dod i stop a bydd hyn yn cael effaith ar ein hadferiad gwyrdd ar ôl y coronafeirws.
“Mae adroddiad diweddaraf Cynhyrchu Ynni yng Nghymru wedi datgelu sut mae’r cynnydd wedi dod i stop. Cafwyd gostyngiad mewn prosiectau ynni dŵr yn 2019 gyda symud araf i helpu gyda chynigion ar gyfer ynni gwynt ar y môr. Fe wnaeth PV solar Cymru hefyd gynnydd o lai nag 1% rhwng 2018 a 2019, gan fethu â manteisio ar yr awydd amlwg am y dechnoleg hon.
“Ni lwyddodd Llywodraeth Cymru chwaith i ddeall difrifoldeb llygredd aer ac ansawdd aer gwael yng Nghymru. Llygredd aer sydd i gyfrif am golli 13,000 o flynyddoedd byw yng Nghymru, gan gostio oddeutu £1 biliwn y flwyddyn i GIG Cymru. Mae’n rhyfeddol bod Llafur Cymru wedi methu â chyflwyno Deddf Aer Glân, er ymrwymiad y Prif Weinidog.
“Gobeithio bod Llywodraeth Cymru wedi defnyddio Wythnos Newid Hinsawdd Cymru i fyfyrio ar ei diffyg gweithredu. Wedi’r cyfan, bydd cynigion i efelychu’r cynllun Grant Cartrefi Gwyrdd yng Nghymru a chynlluniau cymorth ar gyfer tyrbinau gwynt sy’n arnofio yn y Môr Celtaidd nid yn unig yn mynd i’r afael â newid hinsawdd, ond hefyd yn gyfle i gynhyrchu miloedd o swyddi gwyrdd hirdymor ar yr un pryd.
“Mae hybu’r defnydd o ynni adnewyddadwy eang yn ffordd ragorol o helpu i fynd i’r afael â Newid Hinsawdd. Fodd bynnag, bydd Llafur Cymru yn parhau i fethu Cymru os nad yw’n ymrwymo i wella capasiti’r grid.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- I weld copi o’r adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru, cliciwch yma.
- I glywed mwy am Wythnos Newid Hinsawdd Janet, cliciwch yma.
- I weld Cwestiwn Ysgrifenedig Janet ar Ynni Gwynt, cliciwch yma.
Ffoto: Micah Hallahan ar Unsplash