Heddiw (09 Tachwedd), mynnodd Janet Finch-Saunders AS - Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig - fod Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael ar unwaith â’r sefyllfa sy’n gwaethygu’n gyflym i sector gwlân Cymru, yn dilyn cwymp prisiau gwlân ym mhedwar ban byd yn gynharach eleni.
Soniodd Gweinidog yr Wrthblaid am y golygfeydd torcalonnus yr wythnos diwethaf, lle y creodd ffermwr defaid o Gymru goelcerth o 800 cnu mewn protest ar noson Tân Gwyllt am y prisiau gwlân isel iawn. Mewn gohebiaeth gyda swyddogion y sector dros y pythefnos diwethaf, mae Mrs Finch-Saunders wedi cael gwybod bod rhai mathau o wlân defaid mynydd, a gynhyrchir yn arbennig yng Nghymru, yn ddiwerth bellach yn ôl pob golwg.
Gan roi sylwadau ar y sefyllfa gythryblus, dywedodd Janet:
“Mae llawer o ffermwyr defaid yn wynebu her economaidd sylweddol i gadw eu busnesau i fynd, ar ôl colli arian o ganlyniad uniongyrchol i gneifio dros yr haf eleni, lle'r oedd cost y weithred les hanfodol hon yn uwch nag unrhyw arian a gafwyd o bris y farchnad.
“Roedd y golygfeydd yng Nghymru yr wythnos diwethaf yn dorcalonnus gyda ffermwr wedi troi at losgi’r ffeibr cryf a chynaliadwy hwn ar ôl clywed ei fod yn werth dim yn economaidd. Dyma’r weithred o anobaith ddiweddaraf gan y sector hwn, gyda ffermwyr eraill yn aredig eu clipiau gwlân i’r tir fel gwrtaith.
“Er i’m hymgyrch Addewid Gwlân Cymru gymryd ambell gam ymlaen, gan gynnwys addewidion gan gwmnïau manwerthu cenedlaethol a Chomisiwn Senedd Cymru, nid yw Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig eto wedi mynd i’r afael â’r sefyllfa hon. Mae’n rhaid cyflwyno cynllun gweithredu i gefnogi’r sector hwn gerbron y Senedd ar unwaith.
“Mae’n rhaid cynnig cymorth i’n ffermwyr defaid, sy’n wynebu sefyllfa economaidd sy’n gwaethygu o ganlyniad i ostyngiad ym mhris gwlân. Wrth gwrs, mae’n rhaid i hyn ddigwydd law yn llaw â chamau i ddatblygu’r farchnad ddomestig ymhellach ar gyfer gwlân Cymru, fel deunydd inswleiddio neu fel cynnyrch sylfaenol yn y diwydiant ffasiwn cynaliadwy sy’n tyfu.”
DIWEDD
Ffoto: Tanner Yould ar Unsplash