Heddiw (11 Tachwedd), defnyddiodd Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – gwestiwn i Gwnsler Cyffredinol Cymru i erfyn ar Lywodraeth Cymru i wireddu potensial allforio’r genedl, yn enwedig cynnyrch amaethyddol, i wledydd llai sydd eisoes wedi arwyddo cytundeb gyda’r DU.
Yn ôl Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol, mae Llywodraeth y DU wedi arwyddo 21 cytundeb parhad/ cario drosodd hyd yma ac mae’r trafodaethau’n parhau ar tua 17 o rai eraill.
Gan roi sylwadau ar ei chwestiwn, dywedodd Janet:
“Wrth ddarllen y Datganiad Ysgrifenedig diweddar gan Gwnsler Cyffredinol Cymru, roeddwn i’n bryderus iawn gyda’i agwedd llaesu dwylo a’i gwynion bod y gwledydd a oedd wedi arwyddo’r cytundebau parhad yn rhai “bach sydd ddim yn masnachu rhyw lawer â Chymru’. Dydy’r agwedd hon ddim yn deg o gwbl i gynhyrchwyr ein cenedl.
“Rwy’n erfyn ar Lywodraeth Cymru i fod yn barod i sicrhau y gall ein busnesau fanteisio i’r eithaf ar y cytundebau sy’n cael eu harwyddo, gan wireddu’r potensial y gall y marchnadoedd hyn eu cynnig. Byddai hyn yn golygu coethi’r adnoddau digidol sydd ar gael er mwyn gallu egluro’n well a hyrwyddo’r cyfleoedd sydd ar gael.
“Gwireddwyd y potensial allforio amlwg hwn drwy’r Cytundeb Partneriaeth Economaidd Cynhwysfawr diweddar rhwng y DU-Japan, gan sicrhau manteision ychwanegol i Gymru y tu hwnt i’r cytundeb masnach UE-Japan presennol, gan gynnwys cynyddu nifer y dynodiadau daearyddol fel ffordd o gydnabod cynhyrchion eiconig Cymru fel cig oen a gwinoedd rhanbarthol.
“Mae gan weinyddiaethau datganoledig berthynas ystyrlon â Llywodraeth y DU, fel drwy’r Fforwm Gweinidogol ar Fasnach, felly mae’n hollbwysig bod y weinyddiaeth hon yn cymryd y camau angenrheidiol i wireddu ein potensial ar gyfer allforio yn y dyfodol. Wedi’r cwbl, mae cefnogi ein ffermwyr a’n cynhyrchwyr hefyd o fudd i farchnadoedd da byw lleol, mae’n helpu i gynnal ein heconomi gwledig ac yn cefnogi swyddi lleol.”
DIWEDD