Mewn dadl angerddol heddiw, roedd Janet Finch-Saunders AS – y Gweinidog Cysgodol dros Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yn dadlau’n gryf dros fynd ati ar unwaith i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes (DRS) yng Nghymru.
Mae sail DRS yn gymharol syml: pan rydych chi’n prynu diod mewn cynhwysydd untro rydych chi’n gwneud tâl bychan fel ernes. Wrth ddychwelyd y cynhwysydd, rydych chi’n cael eich ernes yn ôl.
Mae’r llinyn mesur ar gyfer DRS i’w gael yn Norwy, ac mae’n weithredol ers cychwyn y 2000au. Mae tua 97 y cant o’r holl boteli diodydd plastig yn cael eu dychwelyd ac mae llai na un y cant o’r holl boteli plastig a werthir n Norwy yn cyrraedd yr amgylchedd. Amcangyfrifir bod 92 y cant o’r holl boteli plastig a ddychwelir yn cael eu hailgylchu i mewn i boteli plastig.
Meddai Mrs Finch-Saunders, a oedd yn arwain y ddadl:
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am hyn ers blynyddoedd, ac rydyn ni wedi cynnal arolwg hirfaith a llwyddiannus ar y pwnc cysylltiedig sef gwahardd plastig untro ar ein gwefan ers nifer o flynyddoedd.
“Rydyn ni wedi cael ein hysbrydoli gan gynlluniau ar hyd a lled y byd, yn cynnwys Norwy. Fodd bynnag, syniadau wedi’u hailgylchu ydy’r rhain i gyd mewn gwirionedd.
“Mae rhai sydd o oedran penodol yn cofio y gallech chi fynd â photeli pop gwag i siopau neu siopau diodydd trwyddedig a chael ad-daliad o geiniog neu ddwy yn y 1970au. Roedd yn ffordd o ychwanegu at bres poced, roedd y system yn helpu i gadw ysbwriel dan reolaeth ac yn annog arferion gwyrdd ymhell cyn i ni glywed y gair ailgylchu.
Ychwanegodd Mrs Finch-Saunders ei bod “… wedi synnu bod y broses yn cymryd mor hir yng Nghymru”, gan ychwanegu:
“Rydyn ni wedi bod yn galw am hyn ers 2016, ac ydw, dwi’n cydnabod bod yr wyth mis diwethaf wedi dwyn sylw pawb at faterion eraill, ond gall Cymru ddim disgwyl – na’r amgylchedd.”
Wrth gloi’r ddadl, dywedodd Mrs Finch-Saunders ei bod yn gobeithio y byddai pob Aelod “… yn cefnogi’r cynnig deddfwriaethol, rhoi eu cefnogaeth iddo, a symud ymlaen yn gadarnhaol ac fel un Senedd wrth i ni ddirwyn blwyddyn anodd iawn i ben”.
DIWEDD