Wrth i fusnesau yng Nghymru wynebu anawsterau difrifol ac wrth i berchnogion busnesau deimlo anobaith llwyr oherwydd trafferthion ariannol, mae Janet Finch-Saunders AS wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu neges glir ynghylch trefniadau gwyliau’r Nadolig i fusnesau lletygarwch fel mater o frys.
Gallai’r rheoliadau cenedlaethol cyfredol ,sy’n gorfodi bwytai, caffis, bariau a thafarnau i gau am 6pm ac i beidio â gwerthu alcohol ar unrhyw adeg, fod yn eu lle tan 23 Rhagfyr, pan fydd y cyfyngiadau yn cael eu llacio dros dro fel y gall mwy o bobl weld ei gilydd gartref dros gyfnod yr ŵyl. Fodd bynnag, mae’r Aelod o Senedd Cymru wedi galw’n daer am i’r sector lletygarwch gael eu hysbysu nawr a fydd y llacio yn galluogi’r sector lletygarwch i agor yn hwyrach na 6pm a gweini alcohol.
Dyma a oedd gan Janet i’w ddweud am y sefyllfa:
“Mae perchnogion gwestai wedi cysylltu â mi yn ofidus iawn ac yn dweud yn glir bod llawer o bobl yn canslo trefniadau oherwydd yr ansicrwydd ynghylch a fydd gwesteion yn cael mwynhau gwydraid o win gyda’u cinio Nadolig.
“Gan nad oes unrhyw sicrwydd ynghylch camau nesaf Llywodraeth Cymru, rydw i’n gwybod am sawl busnes sydd wedi penderfynu cau am weddill y mis.
“Rydw wedi mynegi fy ngobaith y byddai modd codi’r cyfyngiadau yn Sir Conwy mor gynnar â 17 Rhagfyr, ond ymateb y Prif Weinidog oedd y byddai’r sefyllfa’n cael ei hadolygu. Felly does wybod am ba hyd y bydd y mesurau haearnaidd hyn yn para, ond yn y cyfamser dyw busnesau ddim yn gallu cynllunio.
“Mae’r incwm sydd i’w gael yr adeg hon o’r flwyddyn yn gwbl hanfodol i’r sector lletygarwch ac mae’n eu cynnal tan y Pasg. Rydw i’n wirioneddol bryderus ynglŷn â’r hyn allai ddigwydd i lawer o gyflogwyr a gweithwyr yn ystod y misoedd nesaf”.