Heddiw (2 Rhagfyr), mae Janet Finch-Saunders AS – Gweinidog Newid Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig – wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i ddal ati gyda’i chynigion i hyrwyddo bwyd Cymru. Daeth ei sylwadau fel rhan o ddadl yn y Senedd.
Defnyddiodd Gweinidog yr Wrthblaid y ddadl fel cyfle i dynnu sylw at y ffaith y dylai Llywodraeth Cymru wneud y canlynol:
- Creu mwy o safleoedd ar gyfer marchnadoedd bwyd;
- Datblygu rhwydwaith o hybiau bwyd;
- Cefnogi gerddi perlysiau a llysiau cymunedol;
- Gwneud perllannau mewn mannau gwyrdd cyhoeddus segur;
- Cefnogi datblygiad prosesyddion bwyd yng Nghymru;
- Cyflwyno Siarter Bwyd a Diod lleol i annog siopau, caffis a bwytai i werthu bwyd a diod o Gymru sy’n lleol a helpu i hyrwyddo’r cynllun i ddefnyddwyr;
- Datblygu llwybrau a phrofiadau bwyd a diod ym mhob etholaeth ledled Cymru;
- Annog y cyhoedd i brynu eitemau sydd wedi’u tyfu a’u gwneud yng Nghymru;
- Gweithio gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi i hyrwyddo bwyd a diod o Gymru dramor;
- Cyflwyno targed statudol ar gyfer gwella oes silff cig oen Cymru fel ei fod yn gallu cystadlu’n well â chig oen o Seland Newydd.
Mae syniadau’r Gweinidog yn rhoi blaenoriaeth i fwyd, ffermwyr a chynnyrch lleol Cymru.
Wrth roi sylwadau ar gyfraniad bywiog a phwysig, dywedodd Janet:
“Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at fregusrwydd ein system fwyd bresennol, ac wedi dangos bod ffermwyr Cymru yn agored i beryglon anghymesur. Er enghraifft, cafwyd chwalfa dorcalonnus yn y sector cynnyrch llaeth, gyda’r FUW yn awgrymu bod bron i 50% o fusnesau cynnyrch llaeth yng Nghymru wedi’u heffeithio’n arw yn sgil y pandemig.
“Dyna pam fy mod wedi erfyn ar Lywodraeth Cymru i ddal ati gyda chynigion i hyrwyddo bwyd Cymru, fel meithrin mwy o safleoedd ar gyfer marchnadoedd bwyd a datblygu rhwydwaith o hybiau bwyd. Bydd y rhain yn helpu i sefydlu Cymru fel cyrchfan fwyd ar gyfer twristiaid a phobl sy’n mynd allan am y diwrnod unwaith y bydd pobl yn cael gwneud hynny.
“Rwyf wedi ymgyrchu’n frwd dros gynlluniau i gyflwyno Siarter Bwyd a Diod Lleol fel ffordd i annog siopau, caffis a bwytai i werthu cynnyrch lleol o Gymru. Wedi’r cwbl, does dim ffordd well o gefnogi ffermwyr a chynnyrch Cymru na ni, pobl Cymru, yn prynu cynnyrch Cymru.
“Gall Llywodraeth Cymru yn sicr wneud mwy i gefnogi cynhyrchwyr, o ran allforio a’r farchnad ddomestig. Ers tro byd bellach, rwyf wedi bod yn galw ar y Gweinidog i gyflwyno targed statudol ar gyfer gwella oes silff cig oen Cymru, er mwyn gallu cystadlu’n well â chig o Seland Newydd. Mae potensial byd-eang hefyd.
“Ond i wireddu’r potensial, mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth Ei Mawrhydi i hyrwyddo bwyd a diod Cymru dramor. Mae hyn yn arbennig o wir os ydym am fanteisio ar farchnadoedd rhyngwladol newydd. Ond, heb weledigaeth genedlaethol gydlynol ar gyfer bwyd, bydd y cynlluniau hyn yn parhau i gael eu rhwystro.”
DIWEDD