Heddiw (08 Rhagfyr), mae Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid yn yr Hinsawdd, Ynni a Materion Gwledig – Janet Finch-Saunders AS – wedi ymateb i gasgliadau adroddiad newydd gan Hybu Cig Cymru, law yn llaw ag ymchwilwyr prifysgolion Bangor a Luimneach (Limerick).
Fel rhan o'r ymchwil, cynhaliwyd dadansoddiad manwl o 20 o ffermydd defaid a chig eidion, gan gynnwys ymchwilio i faint o garbon roedden nhw'n ei storio trwy goed a thir glas. Daw'r canlyniadau i'r amlwg cyn cyhoeddi drafft cyntaf y Bil Amaeth newydd arfaethedig i Gymru.
Wrth sôn am ganfyddiadau'r adroddiad, dywedodd Janet:
“Nid yw'n syndod bod ffermwyr Cymru ymhlith y rhai mwyaf cynaliadwy yn y byd, gyda'r adroddiad newydd hwn yn pwysleisio'r ffaith fod lefelau allyriadau nwyon tŷ gwydr ffermydd Cymru gyda'r isaf o blith systemau cymharol eraill y byd.
“Mae ffermwyr Cymru wedi dangos dro ar ôl tro eu bod yn awyddus i adeiladu ar draddodiad o gynaliadwyedd, gan weithio'n raddol tuag at darged uchelgeisiol o amaethyddiaeth ddi-garbon erbyn 2040. Mae'r sector wedi nodi dulliau synhwyrol o gyrraedd y nod hwn, drwy wella effeithlonrwydd cynhyrchiol ffermio, rheoli a defnyddio'r tir yn well er mwyn dal a storio mwy o garbon.
“Rwy'n falch iawn o weld bod yr adroddiad hwn yn annog pwysigrwydd cynnal a chadw cynhyrchiant, er mwyn sicrhau cynaliadwyedd economaidd hirdymor rhanbarthau a chymunedau gwledig ein cenedl. Wedi'r cwbl, mae ffermydd Cymru yn grewyr swyddi hanfodol, gan helpu i ddiogelu sgiliau rheoli tir hanesyddol a chynaliadwy.
“Er bod y sector yn siŵr o nodi casgliadau'r adroddiad hwn, mae'n hanfodol ein bod ni'n parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru, sydd wedi arafu braidd wrth ymateb i'r newid yn yr hinsawdd. Mae angen i'r weinyddiaeth hon roi sylw brys i hybu cynhyrchu ynni adnewyddadwy, gan gefnogi perchnogion ar raddfa fach a phreifat, yn hytrach na chael gwared ar gymorth ariannol.”
DIWEDD
Nodiadau i olygyddion:
- I ddarllen mwy am gynllun y sector ar gyfer amaethyddiaeth di-garbon erbyn 2040, cliciwch yma.
Llun: Nick Cozier ar Unsplash