Mae Janet Finch-Saunders AS – Aelod o’r Senedd Aberconwy – wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pawb yn cael yr un chwarae teg, er mwyn i westywyr ledled Aberconwy allu gweithredu’r rheol un metr a mwy a chynnal adloniant byw. Daw’r alwad ar ôl i bryderon gael eu mynegi am yr effaith y mae diffyg adloniant mewn gwestai yn ei chael ar allu’r rhanbarth i ddenu ymwelwyr ar deithiau coetsys.
Gan roi sylwadau ar ei chais i’r Trefnydd, dywedodd Janet:
“Er ei bod wedi bod yn wych gweld gwestai a bwytai lleol yn ailagor eu drysau, maen nhw’n parhau i fod dan anfantais fawr o gymharu â’r busnesau hynny dros Glawdd Offa. Yn wir, mae ein busnesau lletygarwch yn dal i orfod cadw at y rheol dau fetr, tra bod y rheol un metr a mwy llawer mwy realistig ar waith yn Lloegr.
“Mae Cymru yn dal i wahardd perfformiadau byw mewn gwestai am ryw reswm. Dyw rhai perfformwyr a diddanwyr lleol heb weithio ers dros flwyddyn. Mae fy swyddfa hefyd wedi derbyn pryderon bod rhai gwestai yn colli cwsmeriaid i Loegr oherwydd hyn.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ar unwaith i’r Senedd i sicrhau’r un chwarae teg, er mwyn i’n gwestywyr allu gweithio i’r rheol un metr a mwy gan helpu i ailgyflwyno adloniant byw mewn gwestai.”
DIWEDD
Ffoto: gan bantersnaps ar Unsplash