Heddiw, mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig dros Newid Hinsawdd, wedi tynnu sylw at Ddiwrnod Cefnforoedd y Byd 2021 heddiw, drwy danlinellu'r angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar lygredd plastig er mwyn adfer iechyd ein harfordir. Mae Aelod Aberconwy, a oedd yn eiriolwr Llamhidyddion Cyswllt Amgylchedd Cymru yn y Pumed Senedd, wedi datgan yn glir bod y newid yn angenrheidiol er mwyn diogelu cynefinoedd morol a'r rhywogaethau sy'n byw yma.
Bywyd a Bywoliaeth yw thema Diwrnod Cefnforoedd y Byd 2021. Mae'r fenter yn gyfle i godi ymwybyddiaeth fyd-eang o'r manteision y mae pobl yn eu cael o'r cefnfor, yn ogystal â'n dyletswydd unigol a chyfunol i ddefnyddio ei adnoddau'n gynaliadwy. Mae'n gyfle hefyd i ddathlu a gwerthfawrogi’r hyn y mae'r cefnfor yn ei ddarparu, o ocsigen i fwyd.
Wrth dynnu sylw at Ddiwrnod Cefnforoedd y Byd 2021, meddai Janet:
“Yr hyn sy'n destun pryder a siom yw'r ffaith bod rhwng 8 a 13 miliwn tunnell o blastig yn dal i gyrraedd ein cefnfor bob blwyddyn. Yn wir, yn ôl y Gymdeithas Cadwraeth Forol, mae llygredd plastig yn parhau i fod yn un o'r pum prif elfen sy'n sbarduno'r argyfwng bioamrywiaeth presennol, gyda 40% o famaliaid morol mewn perygl o ddiflannu'n llwyr.
“Yn y Pumed Senedd, roeddwn i'n falch iawn o roi cynigion gerbron ar gyfer Cynllun Ernes Diodydd Cymru Gyfan a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol. Defnyddiais fy rôl i gynnig gwaharddiad ar y rhan fwyaf o blastig untro hefyd, gan gynnwys cadachau gwlyb plastig sy’n cael eu rhoi i lawr y toiled lawer yn rhy aml.
“Wrth i'r sesiwn newydd hon o Senedd Cymru ddechrau gweithredu, rydw i'n defnyddio Diwrnod Cefnforoedd y Byd 2021 i bwyso ar Lywodraeth Cymru unwaith eto i gadw at ei hymrwymiad a chyflwyno newid parhaol. Mae'r cynigion hyn yn cael cefnogaeth eang iawn gan y cyhoedd, sydd bellach yn dymuno i Fae Caerdydd ddangos arweiniad yn hyn o beth.
“Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru oresgyn ei chamgymeriadau o wneud dim mwy nag ailadrodd yr un hen ymgynghoriadau, sydd ond yn cuddio eu diffyg gweithredu parhaus ar y mater hwn sy'n peri pryder. Edrychaf ymlaen at gyflwyno cynigion fel y gellir craffu arnyn nhw, er mwyn adfer iechyd ein cynefinoedd arfordirol.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Cafodd Diwrnod Cefnforoedd, menter y Cenhedloedd Unedig, ei ddatgan gyntaf ym 1992 yn dilyn Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar yr Amgylchedd a Datblygu yn Rio de Janeiro, a adwaenir hefyd fel Uwchgynhadledd y Ddaear, a arweiniodd at dargedau pwysig mewn perthynas â'r newid yn yr hinsawdd. Yn 2008, dynodwyd 8 Mehefin yn swyddogol fel Diwrnod Cefnforoedd y Byd, gyda thema wahanol bob blwyddyn.
- Bydd yr Aelod yn cynnal digwyddiad glanhau'r traeth, sy'n cydymffurfio â gofynion Covid, ar draeth Llandudno ar 3 Gorffennaf 2021, gyda'r Gymdeithas Cadwraeth Forol, Mark Isherwood AS a myfyrwyr o Goleg Dewi Sant.
Ffotograff: Janet Finch-Saunders AS a'i thîm yn ystod y Sesiwn Casglu Sbwriel ym mis Medi 2020