Cyn y diwrnod arbennig hwn o ddiolch ddydd Sul 4 Gorffennaf, mae'r Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders AS – wedi annog trigolion i nodi'r achlysur gyda 'gweithred fach dda o ddiolch', ar ôl dod ynghyd heddiw gydag aelodau'r gymuned a'r Gymdeithas Cadwraeth Forol i lanhau’r traeth ar hyd Traeth y Gogledd Llandudno.
Mae'r National Thank You Day wedi ennyn cefnogaeth gan gannoedd o sefydliadau, gan gynnwys y Sgowtiaid a'r Geidiaid, y Rotari, y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol a'r GIG. Mae aelodau o'r cyhoedd yn cael eu hannog i nodi'r dyddiau mewn sawl ffordd wahanol, o bicnic i waith casglu sbwriel Cadwch Brydain yn Daclus.
Wrth nodi'r diwrnod, dywedodd Janet:
“Er bod y 15 mis diwethaf wedi bod yn her aruthrol i gynifer o bobl, mae wedi bod yn braf gweld trigolion a sefydliadau Aberconwy yn dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd. Mae ond yn iawn i ni gymryd eiliad i ddathlu'r ysbryd cymunedol hwn.
“Roedd cymaint o achosion o bobl yn gwirfoddoli i helpu eraill, gan gynnwys Clwb Rotari Dyffryn Conwy a Golygfa Gwydyr yn darparu gwasanaeth banc bwyd i'r rhai agored i niwed. Yn yr un modd, cynigiodd Alpine Travel wasanaeth trafnidiaeth gymunedol fel bod pobl yn gallu mynd i siopa am hanfodion a gwneud pethau fel casglu presgripsiynau.
“Dyma pam y byddwn yn annog trigolion i nodi'r achlysur gyda gweithred fach dda o ddiolch, boed yn bicnic gydag anwyliaid neu'n casglu sbwriel yn wirfoddol yn eich man gwyrdd lleol. Drwy adeiladu ar yr ysbryd o gefnogaeth sydd wedi'n helpu ni gyd drwy'r cyfnodau clo, a dathlu'r rhai sydd wedi gwneud lles, gallwn barhau i sicrhau adferiad cryfach a mwy gofalgar."
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion:
- Mae Diwrnod Diolch yn digwydd ar 4 Gorffennaf 2021 ac fe'i cefnogir gan gannoedd o sefydliadau ledled y DU gan gynnwys y GIG, y Sgowtiaid, y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol a'r Gymdeithas Bêl-droed. Mae Diwrnod Diolch yn galw ar bobl i ddod at ei gilydd gyda'u ffrindiau a'u cymdogion ar 4 Gorffennaf mewn ffordd ddiogel a chyfrifol, i ymuno yn y diolch mwyaf erioed.
- I wybod mwy, ewch i'r wefan trwy glicio yma.