Yn gynharach yr wythnos hon, derbyniodd Llywodraeth Cymru lythyr wedi’i lofnodi gan arweinydd CLlLC, Andrew Morgan, ar ran holl arweinwyr yr awdurdodau lleol, a oedd yn gofyn am adolygiad o’r swyddogaethau a gyflawnir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, pa mor dda maen nhw’n cael eu cyflawni ac a allai fod dewis amgen, gan gynnwys newidiadau deddfwriaethol.
Mewn cwestiwn amserol brys ynglŷn â’r llythyr heddiw, ailadroddodd Janet Finch-Saunders AS – yr Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy a Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid – ei galwadau am sefydlu Asiantaeth Lifogydd Genedlaethol i Gymru a fyddai’n canolbwyntio 100% ar lifogydd. Bachodd Janet ar y cyfle i dynnu sylw at geisiadau gan y gymuned i garthu Afon Conwy, diogelu Castell Gwydir, a symud siâl sydd wedi cronni ger pont Llanrwst.
Wrth gynnig sylwadau ar ôl ei chwestiwn, dywedodd Janet:
“Mae hon yn sefyllfa hynod ddifrifol – mae’r ffaith fod pob un o 22 Awdurdod Lleol Cymru yn galw am adolygiad o bwerau Cyfoeth Naturiol Cymru yn tanlinellu’r diffyg ffydd sy’n treiddio i’r sector cyhoeddus dros allu’r cwango i fynd i’r afael yn llwyddiannus â materion pwysig a diffiniol fel llifogydd.
“Gyda’r llythyr hwn yn nodi bod nifer o arweinwyr yn awgrymu nad yw popeth fel y dylai fod, dim ond cynyddu’r tensiwn mae pryderon diweddar a fynegwyd gan adroddiad Adran 19 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a’r ffordd yr ymdriniwyd â mater Arglawdd Tan Lan yn fy etholaeth yn Aberconwy.
“Mae’n amlwg bod ei gylch gwaith yn rhy eang, gan amlygu’r angen am Asiantaeth Lifogydd Genedlaethol i Gymru. Yn sgil amcangyfrif bod 148,000 o bobl Cymru yn byw mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd sylweddol o afonydd, y môr a dŵr wyneb, mae angen swyddogion ar waith sy’n canolbwyntio 100% ar y mater hwn.
“Mae wedi bod yn amlwg ers peth amser bod y cyhoedd a chyrff cyhoeddus allweddol eraill yng Nghymru wedi colli ffydd yn y sefydliad, felly mae’n rhaid i’r Gweinidog adolygu ei berfformiad ac ystyried iawndal i’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio’n negyddol gan y camreoli honedig.”
DIWEDD