Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd Aberconwy a Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid, wedi croesawu’r newyddion cyffrous bod consortiwm rhyngwladol dan arweiniad DST Innovations, wedi cynnig y prosiect Blue Eden, a fyddai’n gweld:
- 1,000 o swyddi yn cael eu creu yn gwneud batris uwch dechnoleg i storio ynni
- adeiladu fferm ynni solar arnofiol
- canolfan ddata fawr yn cael ei phweru gan ffynhonnell ynni adnewyddadwy di-dor
- defnyddio gwres a gynhyrchir gan y gweinyddwyr cyfrifiadurol yn y ganolfan mewn 5,000 eco-gartref newydd
- agor canolfan ymchwil i’r cefnforoedd a newid hinsawdd a 150 o dai arnofiol.
Gan roi sylwadau ar y prosiect, dywedodd Janet:
“Roedd Llywodraeth y DU yn glir ynghylch y Cynllun Deg Pwynt ar gyfer Chwyldro Diwydiannol Gwyrdd ac mai’r uchelgais oedd creu amodau ar gyfer y sector preifat i fuddsoddi gyda hyder, gan ddefnyddio creadigrwydd unigryw cyfalafiaeth i greu a thyfu diwydiannau gwyrdd newydd.
“Mae’r prosiect hwn, a allai gefnogi oddeutu 16,000 o swyddi ledled dinas-ranbarth Bae Abertawe, creu ynni gwyrdd a miloedd o eco-gartrefi, yn gyfle cyffrous i Fae Abertawe, Cymru a gweddill y byd.
“Ymddengys na fyddai angen yr un geiniog o arian trethdalwyr, felly gobeithio y gellid efelychu’r model hwn ledled y DU, gan helpu i greu cam ymlaen digyffelyb at gyflawni sero-net”.
DIWEDD
Nodiadau: Renewable energy: £1.7bn plan for Swansea led by Bridgend's DST