Cyn cyhoeddiad disgwyliedig y Prif Weinidog y bydd mesurau diogelu lefel rhybudd sero yn cael eu cryfhau, ac y dylai cyfraddau ddechrau gostwng yn ystod y tri mis nesaf, bydd yn rhaid i Weinidogion ystyried ailgyflwyno rhai cyfyngiadau, ac mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd Aberconwy, wedi pledio achos busnesau lleol drwy ofyn am eglurder ar unwaith ynghylch pa gymorth fydd ar gael i fusnesau lleol pe bai cyfyngiadau pellach.
Gan roi sylwadau cyn yr adolygiad, dywedodd Janet:
“Mae risg go iawn y gallai cyflwyno cyfyngiadau pellach niweidio nifer o fusnesau yn Aberconwy.
“Er bod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru sydd i’w groesawu yn dweud y bydd penaethiaid yn cael cymorth ychwanegol i roi mesurau ar waith yn gyflym yn eu hysgolion os yw niferoedd yr achosion yn uchel yn lleol, ni chrybwyllir cymorth i fusnesau.
“Mae angen sicrwydd ar unwaith arnom - pe bai’r cyfyngiadau yn cael eu cyhoeddi heddiw yn cael effaith negyddol ar y theatr a’r sinema yn Aberconwy, y byddai cymorth ariannol ar gael.
“Hefyd, ryw’n annog y Prif Weinidog i ymrwymo nawr i amlinellu pa becyn cymorth a fydd yn cael ei gynnig i fusnesau pe bai Gweinidogion yn cyflwyno mesurau ychwanegol mewn tair wythnos”.
DIWEDD
Mesurau cryfach i ostwng cyfraddau uchel o’r coronafeirws yng Nghymru