Ers y ffrwydrad folcanig a'r tswnami ar 15 Ionawr, mae 84% o boblogaeth Tonga wedi'i heffeithio gan y digwyddiad. Mae rhai unigolion wedi colli eu bywydau, llawer wedi colli cartrefi a hyd yn oed canolfan iechyd wedi cael ei sgubo i ffwrdd.
Er bod y gymuned ryngwladol wedi rhoi cymorth amserol i'r digwyddiad erchyll hwn, mae Janet Finch-Saunders AS Aberconwy wedi datgelu nad yw Llywodraeth Cymru wedi darparu unrhyw gymorth.
Wrth ymateb i Gwestiwn Ysgrifenedig gan Mrs Finch-Saunders, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford AS eu bod yn parhau i bryderu'n fawr am bawb a gafodd eu heffeithio gan y daeargryn a'r tswnami diweddar yn Tonga ym mis Ionawr.
Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi Pwyllgor Argyfyngau Trychinebau Cymru. Ychwanegodd nad yw'r DEC wedi cyhoeddi apêl ar gyfer Tonga yn y DU oherwydd bod llywodraethau ac asiantaethau cymorth gerllaw Tonga sydd mewn sefyllfa well i helpu'r oddeutu 17,000 o bobl sydd angen cymorth brys, a bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi eu hapêl Afghanistan lle mae hyd at 30 miliwn yn wynebu newyn difrifol".
Wrth sôn am ymateb y Prif Weinidog, dywedodd Janet:
“Mae gan ein cenedl draddodiad balch o wneud ymdrech arbennig i helpu cymunedau sy'n wynebu argyfwng ym mhedwar ban byd, ond y tro hwn, dydy Cymru heb gamu i'r adwy.
“Er bod Pwyllgor Argyfyngau Cymru wedi penderfynu peidio â chynorthwyo Tonga ar y sail bod llywodraethau ac asiantaethau cymorth eraill yn nes at yr ynys, nid yw'r rhesymeg honno'n gydnaws â'r penderfyniad i barhau ag apêl Afghanistan.
“Rwy'n llwyr gefnogi'r ymdrechion a wnaed i helpu i achub bywydau yn Afghanistan, ond dylai Pwyllgor Argyfyngau Cymru a Llywodraeth Cymru fod yn barod i roi cymorth i bobl sy'n wynebu argyfwng lle bynnag maen nhw yn y byd".
Mae'r DU yn anfon cymorth dyngarol hanfodol ac yn adleoli llong y Llynges Frenhinol i gynorthwyo Tonga i ymateb i'r tswnami trychinebus a darodd yr ynysoedd.
DIWEDD