Yn ystod dadl yn y Senedd ar adfywio canol trefi a dinasoedd yng Nghymru, galwodd Janet Finch-Saunders, Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r broses gynllunio er mwyn rhoi busnesau ar waith a chreu swyddi.
Daeth ei chyfraniad yng ngoleuni adroddiadau a ddaeth i’w sylw bod ceisiadau ar gyfer medru newid defnydd o un dosbarthiad busnes i'r llall yn wynebu oedi difrifol.
Wrth siarad ar ôl ei haraith, dywedodd Janet:
“Rwy'n falch o gynrychioli etholaeth hardd Aberconwy, lle mae gennym strydoedd mawr gwych. Ond mae yna broblem.
“Rydw i wedi clywed am sefyllfaoedd lle gall gymryd hyd at naw mis i sicrhau newid defnydd o un dosbarthiad busnes i'r llall.
“Dydyn ni ddim hyd yn oed yn sôn am newid eiddo o ddefnydd masnachol i ddefnydd preswyl yma: dim ond newid o un math o fusnes i un arall.
“Drwy'r cyfarfodydd rhithwir gyda rhanddeiliaid rwy'n eu cynnal gyda'r sector eiddo, clywais fod oedi gormodol wrth gyhoeddi penderfyniadau yn golygu bod eiddo'n wag am gyfnodau hir.
“Mae'n hanfodol bod gennym broses gynllunio llwybr cyflym fel y gallwn roi busnesau ar waith a chreu swyddi cyn gynted â phosibl, felly roeddwn yn falch o siarad o blaid yr achos hwn yn y Senedd yr wythnos hon”.
Mae'r Aelod o'r Senedd dros Aberconwy wedi sôn am effaith oedi gydag apeliadau cynllunio ar fusnesau yng Nghymru hefyd.
Ychwanegodd Janet:
“O newid defnydd i apeliadau cynllunio, mae yna batrwm clir o brosesu araf gan awdurdodau cynllunio. Os ydym am hybu twf economaidd yng Nghymru, mae mynd i'r afael â'r oedi biwrocrataidd yn fan dechrau da”.