Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddileu cynlluniau i gael gwared ar gylchfannau ar yr A55 yn Llanfairfechan a Phenmaenmawr, mae Janet Finch-Saunders, Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi gwneud cais llwyddiannus am Gwestiwn Amserol ar y mater, ac wedi holi Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn y Senedd heddiw.
Yn dilyn ei chyfraniad yn y Senedd, dywedodd Janet:
“Mae adroddiadau Llywodraeth Cymru ei hun yn tynnu sylw at bryderon diogelwch gan nad oes cydymffurfiaeth â'r safonau dylunio presennol; tagfeydd traffig o ganlyniad i ddiffyg gwydnwch yn y rhwydwaith; diffyg llwybrau dargyfeirio addas yn ystod gwaith cynnal a chadw ar dwnelau, atgyweirio ffyrdd, a damweiniau ar yr A55; dewisiadau teithio cynaliadwy gwael; mynediad gwael i'r arfordir; a phryderon diogelwch i gerddwyr a beicwyr.
“Hyd yma, mae tua £9 miliwn wedi'i wario ar atebion i'r problemau hynny, ond mae'r arian hwnnw wedi cael ei wastraffu'n llwyr.
“Mae'n ymddangos bod y Dirprwy Weinidog yn gwneud hyn yn enw newid hinsawdd, ond bydd ei benderfyniad yn gweld parhad ciwiau ar y ffyrdd sy'n ymuno â'r cylchfannau, a cheir yn segura yn allyrru carbon monocsid, gan effeithio ar ansawdd yr aer a anadlwn.
“Mae ei benderfyniad yn gam gwag arall gan Lywodraeth Cymru, yn dynn ar sodlau diddymu'r cynlluniau i adeiladu ffordd osgoi Llanbedr, sydd wedi costio bron i £1.7 miliwn i drethdalwyr, a ffordd liniaru'r M4 lle gwastraffwyd £157 miliwn ar ymchwiliad cyhoeddus”.