Yn dilyn adroddiad diweddar gan uwch grwner dros dro Gogledd-orllewin Cymru, a ddatgelodd faterion sy'n peri pryder mewn perthynas â gofal cymdeithasol, mae Aelod o'r Senedd dros Aberconwy – Janet Finch-Saunders – wedi rhannu ei phryderon difrifol ei hun ynghylch darpariaeth gofal cymdeithasol yn Aberconwy.
Ar ôl derbyn gohebiaeth gan nifer cynyddol o etholwyr gofidus sydd wedi gweld eu perthnasau'n cael eu lleoli mewn cyfleusterau gofal cymdeithasol y tu allan i Sir Conwy, mae Janet bellach wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn galw am weithredu ar unwaith.
Wrth sôn am y sefyllfa, dywedodd Janet:
“Mae'n gwbl annerbyniol bod unigolion sydd wedi gweithio a chyfrannu at ein cymdeithas gydol eu hoes yn cael eu symud ar draws y Gogledd er mwyn derbyn y gofal cymdeithasol sydd ei angen arnynt.
“Gall gwneud y penderfyniad i symud perthynas i gartref gofal neu nyrsio fod yn anodd i bawb dan sylw ar y gorau. Mae'r sefyllfa frawychus hon, sy'n gweld unigolion oedrannus ac weithiau agored i niwed yn cael eu tynnu oddi wrth eu rhwydwaith cymdeithasol o deulu a ffrindiau, yn peri cryn bryder ac mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar unwaith.
“Ers yn rhy hir o lawer, mae ein system gofal cymdeithasol wedi'i phlagio gan ddiffyg cyllid a chamreolaeth. Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy a chymryd y camau cadarn a dybryd sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Dylai pob unigolyn gael y cyfle i dderbyn y gofal cymdeithasol sydd ei angen arnynt, a hynny o fewn cyrraedd i'w deulu a ffrindiau”.