Janet Finch-Saunders MS, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, and Shadow Minister for Climate Change, has urged the Minister for Education and Welsh Language to work with the Minister for Climate Change to amend planning policy so that children of farmers can more easily gain planning permission to build homes on family land.
TAN 6 allows for new isolated residential development in the open countryside for rural enterprise workers. The Member of the Welsh Parliament for Aberconwy has called for the category to be amended so that children of farmers who live at home but work elsewhere can more easily gain planning permission to build homes on family land.
Commenting after speaking in the Senedd, Janet said:
“With the Welsh Government only delivering 4,616 of the 12,000 new homes required annually in Wales, there is a huge shortage of houses for our youngest generations to remain in their home towns or villages.
“A cumulative total of 14,240 young people in the 20-29 age group left four Welsh counties between 2012 and 2016!
“Whilst the Welsh Government has recently undertaken a consultation on a Welsh Language Communities Housing Plan which aims to help local people to access affordable housing, I am clear that we should empower young people who are struggling to get on the ladder in their home town or village to build a home on family owned land”.
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders AS, Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, a Gweinidog yr Wrthblaid dros Newid Hinsawdd, wedi annog Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i weithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i ddiwygio polisi cynllunio fel y gall plant ffermwyr gael caniatâd cynllunio yn haws i adeiladu cartrefi ar dir y teulu.
Mae TAN 6 yn caniatáu ar gyfer datblygiadau preswyl pellennig newydd yng nghefn gwlad agored i weithwyr mentrau gwledig. Mae AS Aberconwy wedi galw am ddiwygio'r categori fel y gall plant ffermwyr sy'n byw gartref ond sy'n gweithio mewn mannau eraill gael caniatâd cynllunio i adeiladu cartrefi ar dir teuluol yn haws.
Ar ôl siarad yn y Senedd, dywedodd Janet:
“Gan mai dim ond 4,616 o'r 12,000 o gartrefi newydd sydd eu hangen bob blwyddyn yng Nghymru sy'n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru, mae prinder enfawr o dai i'n cenedlaethau ieuengaf aros yn y trefi neu'r pentrefi lle cawsant eu magu.
Fe wnaeth cyfanswm cronnol o 14,240 o bobl ifanc yn y grŵp oedran 20-29 oed adael pedair sir yng Nghymru rhwng 2012 a 2016!
“Er bod Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymgynghoriad yn ddiweddar ar Gynllun Tai Cymunedau Cymraeg eu Hiaith sy'n ceisio helpu pobl leol i gael gafael ar dai fforddiadwy, rwy'n grediniol y dylem helpu pobl ifanc sy'n cael trafferth ymuno â'r farchnad dai yn eu trefi neu bentrefi genedigol, i godi tŷ ar dir y teulu".
DIWEDD