Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, who has been campaigning for years to see the speed limit on the A470 in Dolwyddelan reduced from 30mph to 20mph, has welcomed a response from Lee Waters MS, Deputy Minister for Climate Change, Welsh Government, in which he states:
“Following the change of default speed limit in residential areas to 20mph in September this year, we will monitor the speeds at this location to inform appropriate action.”
The comment came in reply to Mrs Finch-Saunders asking for an outline of the measures that are being considered to curb speeding along the trunk road in Dolwyddelan.
So severe is the problem that residents have set up a Community Speed Watch Scheme that has been catching drivers.
Commenting on the need to tackle speeding in the village, Janet said:
“I would like to thank the community for all that they have done and continue to do to try and deter drivers from speeding through Dolwyddelan.
“That we have been asking for a speed limit reduction for years just goes to show that the Welsh Government process for setting speeds is completely broken.
“The Deputy Minister should listen to the Community Council and local representatives who understand the situation inside out, and then deliver solutions based on that local knowledge.
“I am pleased that the Welsh Government is now considering 20mph for the village, but there is no guarantee that it will happen. I will continue to put pressure on the Deputy Minister”.
ENDS
Written Question by Janet Finch-Saunders MS:
Will the Minister outline what measures are being considered to curb speeding along the A470 in Dolwyddelan?
Response by Lee Waters MS, Deputy Minister for Climate Change:
We routinely monitor speed data on the trunk road network to inform the need for engineering measures to improve compliance with the speed limit and improve road safety. This data is shared with Go Safe who are responsible for enforcement. Following the change of default speed limit in residential areas to 20mph in September this year, we will monitor the speeds at this location to inform appropriate action
Response by Janet Finch-Saunders MS:
Further to WQ87280 will the Minister confirm that the speed limit in Dolwyddelan will be reduced from 30mph to 20mph?
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy, wedi bod ymgyrchu ers blynyddoedd am ostwng y terfyn cyflymder ar yr A470 yn Nolwyddelan o 30mya i 20mya, ac mae wedi croesawu ymateb gan Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Llywodraeth Cymru, lle dywedodd:
"Yn dilyn newid y terfyn cyflymder cyffredinol mewn ardaloedd preswyl i 20mya ym mis Medi eleni, byddwn yn monitro'r cyflymder yn y lleoliad hwn i lywio camau priodol."
Daeth y sylw fel ymateb i Mrs Finch-Saunders yn gofyn am amlinelliad o'r mesurau sy'n cael eu hystyried i roi diwedd ar oryrru ar hyd y gefnffordd yn Nolwyddelan.
Mae’r broblem mor ddifrifol nes bod trigolion wedi sefydlu Cynllun Gwylio Cyflymder Cymunedol sydd wedi bod yn dal gyrwyr.
Wrth sôn am yr angen i fynd i'r afael â goryrru yn y pentref, dywedodd Janet:
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned am bopeth maen nhw wedi'i wneud ac yn dal i'w wneud i geisio atal gyrwyr rhag goryrru drwy Ddolwyddelan.
"Mae’r ffaith ein bod ni wedi bod yn gofyn am ostwng y terfyn cyflymder ers blynyddoedd yn dangos bod proses Llywodraeth Cymru ar gyfer pennu cyflymder yn gwbl ddiffygiol.
"Dylai'r Dirprwy Weinidog wrando ar y Cyngor Cymuned a chynrychiolwyr lleol sy'n deall y sefyllfa drwyddi draw, ac yna darparu atebion yn seiliedig ar yr wybodaeth leol honno.
"Dwi'n falch bod Llywodraeth Cymru’n ystyried 20mya yn y pentref yn awr, ond does dim sicrwydd y bydd yn digwydd. Byddaf yn parhau i roi pwysau ar y Dirprwy Weinidog".
DIWEDD
Cwestiwn Ysgrifenedig gan Janet Finch-Saunders AS:
A fydd y Gweinidog yn amlinellu pa fesurau sy'n cael eu hystyried er mwyn rhoi diwedd ar oryrru ar hyd yr A470 yn Nolwyddelan?
Ymateb gan Lee Waters AS, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:
Rydym ni’n monitro data cyflymder ar y rhwydwaith cefnffyrdd yn rheolaidd er mwyn llywio'r angen am fesurau peirianneg i wella cydymffurfiaeth â'r terfyn cyflymder a gwella diogelwch ar y ffyrdd. Mae'r data hwn yn cael ei rannu gyda Go Safe sy'n gyfrifol am orfodi. Yn dilyn newid y terfyn cyflymder cyffredinol mewn ardaloedd preswyl i 20mya ym mis Medi eleni, byddwn yn monitro cyflymder y lleoliad hwn i lywio camau priodol.
Ymateb gan Janet Finch-Saunders AS:
Yn dilyn ymlaen o WQ87280, a fydd y Gweinidog yn cadarnhau y bydd y terfyn cyflymder yn Nolwyddelan yn gostwng o 30mya i 20mya?