Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has welcomed the fact that Transport for Wales have advised that they are currently considering a proposal for additional staffing at Llandudno Station, as part of their annual business planning process.
This news comes in response to the Member for Aberconwy writing to the Welsh Government so to ask if they would explain why Llandudno Railway Station opening hours are less than railway stations with less customer use.
In 2021/22 Llandudno Station saw a 240,000 increase in usage.
Llandudno’s ticket office opening times are Monday to Friday 08:30 to 15:00; Saturday 09:00 to 16:00; and Sunday 10:10 to 17:00.
Responding to Janet, Lee Waters MS, Deputy Minister for Climate Change has stated:
“Transport for Wales consider a number of factors when deciding the opening hours for staffed stations, including the type of facilities at the station such as a booking office and its level of usage and sales data. Any increase in opening hours would typically require additional staff or additional staff hours to be funded. Transport for Wales have advised that they are currently considering a proposal for additional staffing along the North Wales coast, including at Llandudno Station, as part of their annual business planning process”.
Speaking after receiving the Deputy Minister’s reply, Janet said:
“Llandudno is one of the United Kingdom’s leading tourist destinations, seeing hundreds of thousands using the railway station annually.
“It is nonsensical that the opening hours are so short. Our town needs a ticket office operational late into the evening from Monday to Saturday, so to welcome and help people who visit Llandudno from all over the world.
“I welcome the fact that Transport for Wales is considering proposals for additional staffing at our local station. I do not doubt that the additional investment would have a positive impact on the community and those who visit by train”.
ENDS
Trafnidiaeth Cymru yn ystyried ymestyn oriau Gorsaf Llandudno
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi croesawu'r ffaith bod Trafnidiaeth Cymru wedi dweud eu bod nhw wrthi'n ystyried cynnig i gael rhagor o staff yng Ngorsaf Llandudno, a hynny fel rhan o'u proses flynyddol o gynllunio busnes.
Daw'r newyddion hyn ar ôl i’r Aelod dros Aberconwy ysgrifennu at Lywodraeth Cymru er mwyn gofyn a fydden nhw'n egluro pam fod oriau agor Gorsaf Rheilffordd Llandudno yn fyrrach na gorsafoedd rheilffordd sy’n cael eu defnyddio’n llai mynych gan gwsmeriaid.
Yn 2021/22, gwelodd Gorsaf Llandudno gynnydd o 240,000 mewn defnydd.
Mae’r swyddfa docynnau ar agor yno ddydd Llun i ddydd Gwener 08:30 tan 15:00, ddydd Sadwrn 09:00 tan 16:00, a dydd Sul 10:10 tan 17:00.
Wrth ymateb i Janet, dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:
"Mae Trafnidiaeth Cymru yn ystyried nifer o ffactorau wrth benderfynu ar yr oriau agor ar gyfer gorsafoedd â staff, gan gynnwys y math o gyfleusterau yn yr orsaf, fel swyddfa docynnau a lefel ei defnydd a'i data gwerthu. Fel arfer byddai unrhyw gynnydd yn yr oriau agor yn golygu bod angen ariannu staff ychwanegol neu oriau staff ychwanegol. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dweud eu bod nhw wrthi'n ystyried cynnig ynghylch staffio ychwanegol ar hyd arfordir y Gogledd, gan gynnwys yng Ngorsaf Llandudno, fel rhan o'u proses flynyddol o gynllunio busnes".
Gan siarad ar ôl derbyn ateb y Dirprwy Weinidog, dywedodd Janet:
"Llandudno yw un o brif gyrchfannau’r Deyrnas Unedig i dwristiaid, gyda channoedd ar filoedd yn defnyddio'r orsaf yn flynyddol.
"Mae'n hurt bod yr oriau agor mor fyr. Mae angen swyddfa docynnau ar ein tref sydd ar agor yn hwyr gyda’r o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, er mwyn croesawu a helpu pobl sy'n ymweld â Llandudno o bob cwr o'r byd.
"Rwy'n croesawu'r ffaith bod Trafnidiaeth Cymru yn ystyried cynigion ynghylch staffio ychwanegol yn ein gorsaf leol. Does dim dwywaith y byddai'r buddsoddiad ychwanegol yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned a'r rhai sy'n ymweld ar y trên".
DIWEDD