Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy and Shadow Minister for Housing, has criticised the Welsh Government for owning an empty home in Llanfairfechan.
The Welsh Government owns two properties in Llanfairfechan: 12 & 13 Glen View. Julie James MS, Minister for Climate Change, has written to the Member for Aberconwy stating that “One property is tenanted and opportunities for occupation are being pursued on the other.”
Commenting on the properties, Janet said:
“At a time when Conwy County alone has 593 people in all forms of temporary accommodation, of which 222 are children, it is scandalous that the Welsh Government has an empty home in Llanfairfechan.
“The 272 people, of which 82 are children, living in bed and breakfast accommodation in Conwy County deserve an explanation from the Minister for Climate Change as to why she has not ensured that the empty property is made a long term home.
“Even if the property was allocated to one person living in bed and breakfast, the saving would be considerable.
“Currently, a typical bed and breakfast placement will cost the Conwy Council £420 a week. Approximately £60 can be reclaimed in Housing Benefit. Therefore, the saving that can be made by saving a single person household from being placed in bed and breakfast accommodation is £360 x 52 weeks = £18,720 a year!
“As the Labour Minister has said herself, empty properties are a wasted housing resource that can become a blight on our communities. I trust that she will now take the positive step required to increase the housing supply in Llanfairfechan.”
ENDS
Written Question:
Janet Finch-Saunders MS:
Further to WQ87661, will the Minister provide a) the addresses of the properties, b) clarify why they were purchased, and c) whether they are in use as homes now? (WQ87952)
Response from Julie James MS, Minister for Climate Change:
a) The properties are 12 & 13 Glen View, Llanfairfechan.
b) Purchase followed statutory planning blight applications submitted by the former owners.
c) One property is tenanted and opportunities for occupation are being pursued on the other.
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy a Gweinidog Tai yr Wrthblaid, wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am fod yn berchen ar gartref gwag yn Llanfairfechan.
Mae Llywodraeth Cymru yn berchen ar ddau eiddo yn Llanfairfechan: 12 ac 13 Glen View. Mae Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi ysgrifennu at yr Aelod dros Aberconwy yn datgan bod “Tenant mewn un eiddo ac mae cyfleoedd yn cael eu harchwilio ar gyfer meddiannu’r llall. "
Wrth sôn am yr eiddo, dywedodd Janet:
"Ar adeg pan fo Sir Conwy yn unig â 593 o bobl ym mhob math o lety dros dro, ac 222 o’r rhain yn blant, mae'n warthus fod gan Lywodraeth Cymru gartref gwag yn Llanfairfechan.
"Mae'r 272 o bobl, gyda 82 o’r rhain yn blant, sy'n byw mewn llety gwely a brecwast yn Sir Conwy yn haeddu esboniad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynglŷn â pham nad yw hi wedi sicrhau bod yr eiddo gwag yn cael ei wneud yn gartref tymor hir.
"Hyd yn oed pe bai'r eiddo'n cael ei ddyrannu i un person sy'n byw mewn gwely a brecwast, byddai'n arbediad sylweddol.
"Ar hyn o bryd, bydd lleoliad gwely a brecwast arferol yn costio £420 yr wythnos i Gyngor Conwy. Gellir adennill tua £60 mewn Budd-dal Tai. Felly, gellid arbed £360 x 52 wythnos = £18,720 y flwyddyn drwy osgoi’r angen i roi un person mewn llety gwely a brecwast!
"Fel mae'r Gweinidog Llafur wedi dweud ei hun, mae eiddo gwag yn adnodd tai sy'n cael ei wastraffu a all droi'n fwrn ar ein cymunedau. Hyderaf y bydd hi nawr yn cymryd y cam cadarnhaol sydd ei angen i gynyddu'r cyflenwad tai yn Llanfairfechan."
DIWEDD
Cwestiwn ysgrifenedig:
Janet Finch-Saunders AS:
O ystyried WQ87661, a fydd y Gweinidog yn darparu cyfeiriadau'r ddau eiddo, b) yn egluro pam y cawsant eu prynu, ac c) a ydynt yn cael eu defnyddio fel cartrefi nawr? (WQ87952)
Ymateb Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
a) Y 2 eiddo yw 12 a 13 Glen View, Llanfairfechan.
b) Prynwyd yn dilyn ceisiadau malltod cynllunio statudol a gyflwynwyd gan y cyn-berchnogion.
c) Mae tenant mewn un eiddo a chyfleoedd i feddiannu yn cael eu dilyn gyda’r llall.