Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has challenged Lesley Griffiths MS, Minister for Rural Affairs and North Wales, and Trefnydd, Welsh Government, over the decision to cut the direct train between Llandudno and Manchester Airport.
This follows the disclosure to Mrs Finch-Saunders by the Welsh Government last week.
Referring to the Welsh Labour Government and Transport for Wales decision to deprive Llandudno of its direct service, the Minister for North Wales was asked to explain “what Llandudno has done wrong”
The Minister responded to the Member’s contribution by stating:
“Thank you. Well, I absolutely agree that Llandudno is a major tourist spot in north Wales. I mean, the Minister for Climate Change and therefore the Deputy Minister for Climate Change have got questions next week. It might be worth raising direct with the Deputy Minister. But one area where I know the Deputy Minister is trying to make some inroads is getting more rail infrastructure in north Wales, so that we can improve rail performance, not just in north Wales but right across Wales.”
Speaking after scrutinising the Minister for North Wales and Trefnydd, Janet said:
“We don’t need any new rail infrastructure to keep the direct service between Llandudno and Manchester Airport. What we do need is for the Welsh Labour Government to decide that the service should stay in place.
“With one hand we are supposed to be working towards net zero 2050, but with the other the Welsh Government is stripping the community of a key rail connection, and ultimately causing more people to use private cars.
“It is completely nonsensical that the train is being cut, and deeply insulting to the local community that there seems to have been zero consultation.
“The Welsh Government need to tell us what Llandudno has done wrong so to be deprived of a service which acts as the international gateway to the town.”
ENDS
Notes:
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi herio Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, Llywodraeth Cymru, ynghylch y penderfyniad i gael gwared ar y gwasanaeth trên uniongyrchol rhwng Llandudno a Maes Awyr Manceinion.
Daw hyn yn dilyn y datgeliad i Mrs Finch-Saunders gan Lywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf.
Wrth gyfeirio at benderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru a Trafnidiaeth Cymru i amddifadu Llandudno o'i gwasanaeth uniongyrchol, gofynnwyd i'r Gweinidog dros Ogledd Cymru esbonio "beth mae Llandudno wedi'i wneud o'i le"
Ymatebodd y Gweinidog i gyfraniad yr Aelod trwy ddatgan:
"Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr fod Llandudno yn lle pwysig i dwristiaid yn y Gogledd. Hynny yw, mae gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ac felly'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd gwestiynau i’w hateb yr wythnos nesaf. Efallai y byddai'n werth ei godi’n uniongyrchol gyda'r Dirprwy Weinidog. Ond un maes y gwn y mae’r Dirprwy Weinidog yn ceisio gwneud cynnydd ynddo yw cael mwy o seilwaith rheilffyrdd yn y Gogledd, er mwyn i ni wella perfformiad rheilffyrdd, nid dim ond yn y Gogledd, ond ledled Cymru."
Yn siarad ar ôl craffu ar waith y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, dywedodd Janet:
"Does dim angen unrhyw seilwaith rheilffordd newydd arnom i gadw'r gwasanaeth uniongyrchol rhwng Llandudno a Maes Awyr Manceinion. Yr hyn sydd ei angen arnom yw i Lywodraeth Lafur Cymru benderfynu y dylai'r gwasanaeth aros yn ei le.
"Ar un llaw rydym yn cael ein siarsio i weithio tuag at sero net 2050, ond ar y llaw arall mae Llywodraeth Cymru cael gwared ar gysylltiad rheilffordd allweddol yn y gymuned, ac yn y pen draw yn achosi i fwy o bobl ddefnyddio ceir preifat.
"Mae'n hurt bod y gwasanaeth trên yn cael ei gwtogi, ac yn sarhad mawr ar y gymuned leol ei bod yn ymddangos nad oes unrhyw ymgynghori wedi bod.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru ddweud wrthym beth mae Llandudno wedi ei wneud o'i le i gael ei amddifadu o wasanaeth sy'n gweithredu fel porth rhyngwladol i’r dref."
DIWEDD
Nodiadau:
Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu CWTOGI gwasanaethau trên uniongyrchol i Landudno