Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has written an urgent letter to Cllr Aaron Wynne, Cabinet Member for Culture and Leisure, Conwy County Borough Council, raising serious concerns and questions about the Local Authority’s failure to open the paddling pools at Craig y Don, Llanfairfechan, and Penmaenmawr as normal in May this year.
In a statement, the Local Authority has advised that:
“We recently carried out a full safety audit of all our sites, which found some areas to be high slip risk.
“In response to the safety survey results, we planned to carry out some work to apply a specialist anti-slip coating to the surfaces, but unfortunately the only UK provider and installer is now unable to carry out the work due to sudden ill health.
“We are urgently trying to find an alternative solution or training for another contractor to carry out this essential health and safety work.”
Commenting on the fact that Conwy County’s paddling pools are to remain closed, Janet said:
“I cannot stress how disappointed and upset I feel about such negative action by Conwy Council.
“There has been a failure to ensure the proper management of the pools that are treasured by our communities and enjoyed by the youngest in society.
“I do not believe for one second that there is only one person in the whole of the United Kingdom who can apply a specialist anti-slip coating to a pool. Every day the responsible Cabinet Member fails to find another provider or solution, is a day that our children are being let down by Conwy County Borough Council.
“Perhaps this neglect at Llandudno would not be so keenly felt if they had access a wide sandy beach in the meantime, rather than North Shore’s quarry rocks.
“This situation is not what any of us expect when we have suffered the highest council tax increase in the whole of Wales!”
Should you like to see the pools filled as soon as possible please sign the petition here
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi ysgrifennu llythyr brys at y Cynghorydd Aaron Wynne, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn mynegi pryderon a chwestiynau difrifol am fethiant yr Awdurdod Lleol i agor pyllau padlo Craig y Don, Llanfairfechan, a Phenmaenmawr yn ôl yr arfer ym mis Mai eleni.
Mewn datganiad, mae'r Awdurdod Lleol wedi dweud:
"Roeddem wedi cynnal archwiliad diogelwch llawn ar bob safle yn ddiweddar a chanfod bod rhai ardaloedd gyda risg uchel o lithro.
"Mewn ymateb i ganlyniadau’r arolwg diogelwch, roeddem yn bwriadu gwneud gwaith i baentio’r arwyneb gyda phaent gwrthlithro, ond yn anffodus mae’r unig ddarparwr a gosodwr yn y DU nawr yn methu ymgymryd â’r gwaith oherwydd salwch sydyn.
"Rydym yn ceisio dod o hyd i ddatrysiad amgen neu hyfforddiant i gontractwr arall i wneud y gwaith iechyd a diogelwch hanfodol hwn."
Wrth sôn am y ffaith bod pyllau padlo Sir Conwy yn parhau ar gau, dywedodd Janet:
"Ni allaf bwysleisio faint o siom a gofid y mae camau gweithredu mor negyddol gan Gyngor Conwy yn ei achosi i mi.
"Dyma fethiant i sicrhau rheolaeth briodol o'r pyllau sy'n cael eu trysori gan ein cymunedau a'u mwynhau gan blant bach ein cymdeithas.
"Nid wy’n credu am eiliad mai dim ond un person sydd yn y Deyrnas Unedig gyfan a all osod gorchudd gwrthlithro arbenigol mewn pwll. Mae pob diwrnod y mae'r Aelod Cabinet cyfrifol yn methu dod o hyd i ddarparwr neu ddatrysiad arall yn ddiwrnod y mae ein plant yn cael eu gadael i gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
"Efallai na fyddai'r esgeulustod yma yn Llandudno yn cael ei deimlo gymaint pe baen nhw'n gallu mwynhau traeth tywod llydan yn y cyfamser, yn hytrach na chreigiau chwarel Traeth y Gogledd.
"Dyw'r sefyllfa hon ddim yr hyn y mae unrhyw un ohonom ni’n ei ddisgwyl pan rydyn ni wedi dioddef y cynnydd uchaf o ran treth cyngor yng Nghymru gyfan!"
Os hoffech chi weld y pyllau'n cael eu llenwi cyn gynted â phosib, llofnodwch y ddeiseb yma
DIWEDD