Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has spoken of her delight after visiting Idlewild Animal Sanctuary.
Idlewild is a charity in Conwy that provides a refuge for a wide variety of animals that maybe hurt, elderly, or have disabilities. The organisation provides care for these animals so that they may be re-homed in the future.
Speaking after the visit, Janet said:
“It was a joy to visit Idlewild to see the wonderful work they do caring for these vulnerable animals. It is one big family which includes sheep, goats, geese, chickens and surprisingly even a snake.
“Without the kind people of our local community helping to fund the hard work, this sanctuary would be unable to feed the animals, carry out health checks, nor give them the love and attention needed.
“I would encourage every animal lover to consider donating £1 per week so that the animals can continue to be cared for by the amazing staff and volunteers. You can subscribe by searching for Idlewild Animal Sanctuary.
“Thank you once again to the sanctuary manager Kim, the deputy manager Ryan, and all the volunteers. Without all of you taking special care of these animals, many wouldn’t be here today!”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi sôn am ei balchder ar ôl ymweld â Lloches Anifeiliaid Idlewild.
Elusen yng Nghonwy yw Idlewild sy'n lloches i amrywiaeth eang o anifeiliaid a allai fod mewn poen, yn oedrannus, neu ag anableddau. Mae'r sefydliad yn gofalu am yr anifeiliaid hyn fel y gellir eu hailgartrefu yn y dyfodol.
Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Janet:
"Roedd yn bleser ymweld ag Idlewild i weld y gwaith gwych maen nhw'n ei wneud yn gofalu am yr anifeiliaid bregus hyn. Mae'n un teulu mawr sy'n cynnwys defaid, geifr, gwyddau, ieir ac yn rhyfeddol, hyd yn oed neidr.
"Heb bobl fel hyn yn ein cymuned leol yn helpu i ariannu'r gwaith caled, ni fyddai'r lloches hon yn gallu bwydo'r anifeiliaid, cynnal archwiliadau iechyd, na rhoi'r cariad a'r sylw sydd ei angen arnyn nhw.
"Byddwn yn annog pob un sy'n hoff o anifeiliaid i ystyried rhoi £1 yr wythnos er mwyn i'r anifeiliaid barhau i gael gofal gan y staff a'r gwirfoddolwyr anhygoel. Gallwch danysgrifio trwy chwilio am Loches Anifeiliaid Idlewild (Idlewild Animal Sanctuary).
"Diolch unwaith eto i reolwr y lloches Kim, y dirprwy reolwr Ryan, a'r holl wirfoddolwyr. Heb eich gofal arbennig i'r anifeiliaid hyn, ni fyddai llawer gyda ni heddiw!"
DIWEDD