Welsh Government officials have agreed to undertake a meeting with Conwy County Borough Council on 18 October 2023 so to discuss potential measures to reduce the risk of further damage being caused to Pont Fawr, Llanrwst.
The meeting comes after a series of correspondence and pressure from Janet Finch-Saunders, the local Member of the Welsh Parliament, who has long campaigned for consideration to be given to a three way traffic light system, which would include a road managed by the Local Authority (B5106) and Welsh Government (A470).
The Member was informed of the meeting in a letter from Lee Waters MS, Deputy Minister for Climate Change, Welsh Government, in which he also states:
“I note your proactive engagement with Conwy County Borough Council (CCBC). As I advised in response to your Written Question tabled on 28 June, we have not held recent discussions with CCBC on this issue.”
Commenting after receiving the latest update from the Deputy Minister, Janet said:
“Whilst I am proactively engaging, banging on both Conwy County Borough Council and Welsh Government’s doors, they are moving at a glacial pace.
“During the last two months there have been two devastating collisions on the historic crossing, leaving the scheduled monument seriously damaged.
“Conwy County Borough Council and Welsh Government’s decision to wait until 18 October, another 12 weeks, before discussing potential solutions that involve the A470 and B5106 is appalling.
“CADW should be approaching this situation like me, fighting to safeguard the bridge for the benefit of Wales and future generations. Rather, what we have is a perfect example of the public sector’s complete failure to cooperate, and achieve positive outcomes in a timely manner.
“Conwy County Borough Council, Welsh Government, and CADW should be ashamed of their complete ineffectiveness in protecting Pont Fawr promptly.”
ENDS
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gynnal cyfarfod gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar 18 Hydref 2023 er mwyn trafod mesurau posibl i leihau'r risg o achosi difrod pellach i Bont Fawr, Llanrwst.
Daw'r cyfarfod ar ôl cyfres o ohebiaeth a phwysau gan Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, sydd wedi ymgyrchu ers hydoedd i ystyried system goleuadau traffig tair ffordd, a fyddai'n cynnwys ffordd a reolir gan yr Awdurdod Lleol (B5106) a Llywodraeth Cymru (A470).
Cafodd yr Aelod wybod am y cyfarfod mewn llythyr gan Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, lle mae hefyd yn nodi:
“Nodaf eich cysylltiadau rhagweithiol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC). Fel y dywedais mewn ymateb i'ch Cwestiwn Ysgrifenedig a gyflwynwyd ar 28 Mehefin, nid ydym wedi cynnal trafodaethau diweddar gyda CBSC ar y mater hwn.”
Mewn ymateb i’r diweddariad gan y Dirprwy Weinidog, dywedodd Janet:
“Er fy mod i’n ymgysylltu'n rhagweithiol, gan guro ar ddrysau Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Llywodraeth Cymru, mae pethau’n symud fel malwen.
“Bu dau wrthdrawiad dinistriol ar y groesfan hanesyddol dros y ddeufis diwethaf, a adawodd gryn ddifrod i'r heneb gofrestredig.
“Mae penderfyniad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Llywodraeth Cymru i aros tan 18 Hydref, 12 wythnos arall, cyn trafod atebion posibl sy'n cynnwys yr A470 a'r B5106 yn warthus.
“Dylai CADW fynd i'r afael â'r mater fel fi, gan frwydro i ddiogelu'r bont er budd Cymru a chenedlaethau'r dyfodol. Yn hytrach, mae'r hyn sydd gennym yn enghraifft berffaith o fethiant llwyr y sector cyhoeddus i gydweithio, a sicrhau canlyniadau cadarnhaol mewn da bryd.
“Dylai bod cywilydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Llywodraeth Cymru, a CADW am e'u haneffeithiolrwydd llwyr wrth warchod Pont Fawr yn brydlon.”
DIWEDD