The Welsh Government’s plans for default speed limits of 20mph in residential areas throughout Wales is proving to be wholly unpopular.
In a survey conducted by North Wales Live on the change to a default speed limit in residential areas to 20mph, only 12% of respondents support the plans, whereas 88% oppose the plans.
The default residential speed limits are set to be reduced from 30mph to 20mph on the 17th September 2023. To change the signs alone will cost almost £30 million.
The Conservative Shadow Minister for North Wales, Daren Millar MS, and the Conservative Shadow Transport Minister, Natasha Asghar MS have both spoken out against the controversial plans.
Speaking on the plans, Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, said
“It is high time that the ministers in Cardiff Bay listened to the people of Wales. People in Aberconwy have told me that they do not believe there will be any decrease in emissions, and are angry about the potential cost.
“It will cost local authorities up to £33 million. Furthermore there is likely to be a £4.3 billion impact on local economies due to the cost of implementing this .
“There is overwhelming opposition in Aberconwy to default speed limits of 20mph in residential areas across Wales. It is evident that the public do not support these Welsh Government plans.
“These are very expensive plans, and a U-turn is needed from Ministers. This transport policy is not popular, nor sensible. It would make far more sense to have case-by-case speed limits that are suitable to local areas.”
Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer terfynau cyflymder cyffredinol o 20mya mewn ardaloedd preswyl ledled Cymru yn profi’n amhoblogaidd dros ben.
Mewn arolwg a gynhaliwyd gan North Wales Live ar newid y terfyn cyflymder cyffredinol mewn ardaloedd preswyl i 20mya, dim ond 12% o'r ymatebwyr sy'n cefnogi'r cynlluniau, gyda 88% yn gwrthwynebu'r cynlluniau.
Disgwylir i'r terfynau cyflymder preswyl cyffredinol gael eu lleihau o 30mya i 20mya ar 17 Medi 2023. Bydd newid yr arwyddion yn unig yn costio bron i £30 miliwn.
Mae Gweinidog dros Ogledd Cymru y Ceidwadwyr yr Wrthblaid, Darren Millar AS, a Gweinidog Trafnidiaeth y Ceidwadwyr yr Wrthblaid, Natasha Asghar AS, ill dau wedi siarad yn erbyn y cynlluniau dadleuol.
Wrth siarad am y cynlluniau, dywedodd Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy,
"Mae'n hen bryd i'r gweinidogion ym Mae Caerdydd wrando ar bobl Cymru. Mae pobl Aberconwy wedi dweud wrtha i nad ydyn nhw'n credu y bydd yna ostyngiad mewn allyriadau, ac maen nhw'n flin am y gost bosib.
"Bydd yn costio hyd at £33 miliwn i awdurdodau lleol. Ar ben hynny, mae'n debygol y bydd gwerth £4.3 biliwn o effaith ar economïau lleol yn sgil y gost o weithredu hyn.
"Mae gwrthwynebiad llethol yn Aberconwy i derfynau cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd preswyl ledled Cymru. Mae'n amlwg nad yw'r cyhoedd yn cefnogi'r cynlluniau hyn gan Lywodraeth Cymru.
"Mae'r rhain yn gynlluniau drud iawn, ac mae angen tro pedol gan Weinidogion. Dyw’r polisi trafnidiaeth hwn ddim yn boblogaidd, nac yn gall. Byddai'n gwneud llawer mwy o synnwyr cael cyfyngiadau cyflymder fesul achos sy'n addas i ardaloedd lleol."