Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has spoken of her delight after visiting Botanical Babe Plants on Mostyn Street, Llandudno.
The shop is a welcome addition to the high street, offering a wide selection of houseplants with care tips and advice from the owner Tesni, and her knowledgeable, and friendly staff.
Additionally, the premises is also home to a fantastic coffee shop, with freshly baked cakes and pastries. However, Tesni doesn’t stop there, on Sunday evenings, Botanical Yoga is in full swing! They are offer a relaxing space so you can enjoy a one hour session with a yoga teacher, and afterwards, a free tea with 15% off the freshly baked goods, plus 15% discount on plant purchases.
Speaking after the visit, Janet said:
“It was a joy visit to Botanical Babe Plants on Mostyn Street and experience this unique space.
“Tesni has created a real life garden of Eden in the centre of Llandudno. Any lover of house plants could stay in there for hours, especially when there is a fantastic coffee shop also on the premises. They have a great selection of drinks, and some freshly baked goods that were all very tempting.
“It was also amazing to hear that Tesni has created Botanical Yoga on Sunday evenings. What a perfect place for someone to relax, surrounded by the wonderful house plants that they stock. In addition to joining the yoga class, all participants receive a 15% discount in the shop.
“I want to thank Tesni for showing me around her brilliant shop. I would encourage anyone looking for house plants, to go and see Tesni and her fantastic team for help and advice”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi sôn am ei llawenydd ar ôl ymweld â Botanical Babe Plants ar Stryd Mostyn, Llandudno.
Mae'r siop yn ychwanegiad i'w groesawu i'r stryd fawr, gan gynnig dewis eang o blanhigion tŷ gydag awgrymiadau gofal a chyngor gan Tesni, y perchennog, a'i staff gwybodus a chyfeillgar.
Yn ogystal, mae'r adeilad yn gartref i siop goffi wych hefyd, gyda chacennau a theisennau wedi'u pobi'n ffres. Fodd bynnag, nid dyna'r unig beth y mae siop Tesni yn ei gynnig oherwydd ar nosweithiau Sul, mae Yoga Botanegol ar ei anterth! Maen nhw'n cynnig gofod braf fel y gallwch chi fwynhau sesiwn un awr gydag athro yoga, ac wedyn, paned o de am ddim gyda 15% oddi ar y nwyddau sydd wedi'u pobi'n ffres, ynghyd â gostyngiad o 15% pan fyddwch chi'n prynu planhigion.
Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Janet:
“Roedd yn hyfryd cael ymweld â Botanical Babe Plants ar Stryd Mostyn, a phrofi'r gofod unigryw hwn.
“Mae Tesni wedi creu gardd Eden go iawn yng nghanol Llandudno. Gallai unrhyw un sy'n hoff o blanhigion tŷ aros yno am oriau, yn enwedig gan fod siop goffi wych ar y safle hefyd. Mae ganddyn nhw ddewis helaeth iawn o ddiodydd, a rhai nwyddau sydd wedi'u pobi'n ffres ac roedden nhw i gyd yn tynnu dŵr i'r dannedd.
“Roedd yn anhygoel clywed bod Tesni wedi creu Yoga Botanegol ar nosweithiau Sul hefyd. Am le perffaith i rywun ymlacio, wedi'i amgylchynu gan y planhigion tŷ bendigedig sydd gan y siop mewn stoc. Yn ogystal ag ymuno â'r dosbarth yoga, mae pawb sy'n cymryd rhan yn y dosbarthiadau yn derbyn gostyngiad o 15% yn y siop.
“Hoffwn ddiolch i Tesni am fy nhywys o amgylch ei siop arbennig. Byddwn i'n annog unrhyw un sy'n chwilio am blanhigion tŷ, i fynd i weld Tesni a'i thîm rhagorol am gymorth a chyngor”
DIWEDD