Over 8,000 people have now signed the petition calling for the Welsh Government to fund both the removal of quarry rocks and the restoration of sand and groynes to Llandudno North Shore beach.
In order for the petition to be considered for debate in the Welsh Parliament, 10,000 signatures are needed. The petition is currently on 8,164.
You can sign the petition here.
Janet Finch-Saunders MS is working with Cllr. Ian Turner and residents to help restore North Shore Beach to its former glory.
Speaking about the petition, Janet said:
“We are now fast approaching the 10,000 signatures needed for our petition to be considered for debate in the Welsh Parliament.
“This is fantastic – to be less than 2,000 signatures off of the goal with 2 months to go is a testament to the brilliant work of Cllr. Ian Turner and the volunteers on the Promenade stand.
“The beach being made up of boulders is dangerous, and it is about time that residents and tourists alike are able to enjoy using it again.
“Wouldn’t it be fantastic to have our beach become usable to all once again?
“Please support our beach by signing the online petition.”
END
Erbyn hyn, mae dros 8,000 o bobl wedi llofnodi’r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu’r gwaith o symud creigiau chwarel ac adfer tywod a grwynau i Lannau Gogledd Llandudno.
Er mwyn i’r Senedd drafod y ddeiseb, mae angen 10,000 o lofnodion. 8,164 sydd wedi llofnodi ar hyn o bryd.
Gallwch lofnodi’r ddeiseb yma.
Mae Janet Finch-Saunders AS yn gweithio gyda’r Cyngh Ian Turner a thrigolion i helpu i adfer Traeth y Gogledd i’w hen ogoniant.
Wrth siarad am y ddeiseb, dywedodd Janet:
“Rydyn ni bron â chyrraedd y 10,000 o lofnodion sydd eu hangen i’n deiseb gael ei hystyried a’i dadlau gan Senedd Cymru.
“Mae hyn yn wych – mae bod o fewn 2,000 o lofnodion i’r nod gyda 2 fis i fynd yn glod i waith gwych y Cyngh Ian Turner a’r gwirfoddolwyr ar stondin y Prom.
“Mae traeth o glogfeini’n beryglus, ac mae’n hen bryd i drigolion ac ymwelwyr allu mwynhau ei ddefnyddio eto.
“Oni fyddai’n wych pe bai ein traeth yn bosibl i’w ddefnyddio eto?
“Cefnogwch ein traeth drwy lofnodi ein deiseb ar-lein.”
DIWEDD