In celebration of the British Heart Foundation’s 60th Birthday, Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has recently visited Llandudno’s local British Heart Foundation store.
The British Heart Foundation fund life-saving research into heart and circulatory diseases to find better ways of diagnosing, treating, and hopefully curing them.
340,000 people in Wales live with heart and circulatory diseases, and the money raised in the British Heart Foundation shops directly supports the world leading research carried out at Welsh universities to find treatments and cures.
Speaking of her visit, Janet said,
“It was a pleasure to visit the British Heart Foundation store in Llandudno, and meet the fantastic team. A big thank you to Gemma Roberts, the Policy and Public Affairs Manager, for organising the visit, and to volunteers Bethan, Ray, Karen, Heather and Vicki for all your hard work.
“The store is brilliant, and is an asset to our community and high street. The funds raised from this store, and the stores all across Wales, are vital to the incredibly important research the British Heart Foundation supports.
“I am so grateful we have a British Heart Foundation store here in Llandudno and that we can all be a part of their important work through shopping there! I was particularly interested in their unique ways of recycling – absolutely nothing goes to waste!”
Store Manager, Heather said,
“Our work in BHF shops in Wales is vital to the charity. We raise money to fund lifesaving research across the UK. But we are heavily reliant on volunteers. We have a huge range of volunteer positions available from sales assistant roles to warehouse positions. All our volunteers learn new skills, and gain valuable experience, so whether people are interested in customer service, warehouse logistics or sales, we have opportunities to suit everyone.”
“We rely on the goodwill of the residents of Llandudno to donate their pre-loved items to the BHF. We’re so grateful for the support they give, and our loyal customers, many of whom have become friends. We couldn’t do what we do without the whole community getting behind us.”
To find out more about volunteering and career opportunities at the BHF visit www.bhf.org.uk.
END
Gan fod Sefydliad Prydeinig y Galon yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed, aeth Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, i siop leol Sefydliad Prydeinig y Galon yn Llandudno yn ddiweddar.
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn ariannu ymchwil achub bywyd i glefydau’r galon a chylchrediad y gwaed er mwyn canfod ffyrdd gwell o’u diagnosio a’u trin, a chael iachâd llwyr ohonynt gobeithio.
Mae 340,000 o bobl yn byw gyda chlefydau’r galon a chylchrediad y gwaed yng Nghymru, ac mae’r arian sy’n cael ei godi yn siopau Sefydliad Prydeinig y Galon yn mynd yn uniongyrchol i gefnogi’r gwaith ymchwil sy’n arwain y byd mewn prifysgolion yng Nghymru i ddod o hyd i driniaethau ac iachâd.
Wrth siarad am ei hymweliad, meddai Janet,
“Roedd hi’n bleser ymweld â siop Sefydliad Prydeinig y Galon yn Llandudno, a chyfarfod y tîm gwych yno. Diolch yn fawr i Gemma Roberts, y Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, am drefnu’r ymweliad ac i’r gwirfoddolwyr Bethan, Ray, Karen, Heather a Vicki am eich gwaith caled.
“Mae’r siop yn wych, ac yn gaffaeliad i’n cymuned ac i’r stryd fawr. Mae’r arian a godir yn y siop hon, a’r siopau eraill ledled Cymru, yn hanfodol i’r ymchwil andros o bwysig y mae Sefydliad Prydeinig y Galon yn ei gefnogi.
“Rwyf mor ddiolchgar bod gennym ni Sefydliad Prydeinig y Galon yma yn Llandudno ac y gallwn ni i gyd fod yn rhan o’u gwaith pwysig drwy siopa yma! Roedd gen i ddiddordeb mawr clywed am eu ffyrdd unigryw o ailgylchu – does dim byd o gwbl yn cael ei wastraffu!”
Meddai Heather, Rheolwraig y Siop,
"Mae ein gwaith yn siopau Sefydliad Prydeinig y Galon yng Nghymru yn hanfodol i'r elusen. Rydyn ni’n codi arian i ariannu ymchwil sy'n achub bywydau ledled y Deyrnas Unedig. Ond rydyn ni’n dibynnu'n fawr ar wirfoddolwyr. Mae gennym ystod enfawr o swyddi gwirfoddoli ar gael, o rolau cynorthwywyr gwerthu i swyddi warws. Mae ein holl wirfoddolwyr yn dysgu sgiliau newydd, ac yn ennill profiad gwerthfawr, felly p'un a oes gan bobl ddiddordeb mewn gwasanaeth cwsmeriaid, logisteg warws neu werthu, mae gennym gyfleoedd addas i bawb."
"Rydyn ni'n dibynnu ar ewyllys da trigolion Llandudno i roi eu heitemau a arferent gael eu caru i Sefydliad Prydeinig y Galon. Rydyn ni mor ddiolchgar am y gefnogaeth y maen nhw’n ei rhoi, a'n cwsmeriaid ffyddlon, gyda llawer ohonyn nhw wedi dod yn ffrindiau. Allen ni ddim gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud heb gefnogaeth y gymuned gyfan."
I gael gwybod mwy am wirfoddoli a chyfleoedd gyrfa yn Sefydliad Prydeinig y Galon, ewch i www.bhf.org.uk.
DIWEDD