The success of the FIFA Women’s World Cup has been prominent in the news in recent weeks, and a referee with deep roots in Aberconwy, Cheryl Foster has been proudly representing Wales on this global stage.
Cheryl is an FA Wales referee, and took charge of the third-place playoff match between Sweden, and host nation, Australia.
Cheryl Foster is now the first Welsh referee to officiate at a World Cup finals since the 1978 FIFA Men’s World Cup. She has also officiated three other tournament matches.
Due to the increasing popularity of women’s football, the Football Association of Wales has recently launched a referee academy for women and girls: the Adran Leagues Referee Academy.
This academy is a targeted programme that will recruit and develop referees to effectively service the increasingly popular women’s game with match officials through the Adran U19’s league. It will be a development platform for both referees and players.
More information is available about the academy here.
Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, said:
“It has been an excellent year for Cheryl, representing Wales as a referee at the Women’s World Cup, and officiating the UEFA Women’s Champions League final!
“Cheryl is a fantastic role-model for young football fans, and I am proud that such a global inspiration has come from North Wales. To be representing Wales at this level is a very impressive achievement.
“I am so pleased to hear that the Welsh FA are now focusing on the importance of including women in football at all levels. We currently only have 50 female referees in the whole of Wales. Having visible role models, like Cheryl, at such a high-level is key to changing this.
“With over 100 women and girls signed up to the Adran Leagues Referee Academy induction workshops so far, I look forward to seeing many more Welsh referees officiating matches at all levels in years to come!”
Mae llwyddiant Cwpan y Byd Merched FIFA wedi bod yn amlwg yn y newyddion yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae dyfarnwraig sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn yn Aberconwy, Cheryl Foster, wedi bod yn falch o gynrychioli Cymru ar y llwyfan byd-eang hwn.
Mae Cheryl yn dyfarnu gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, a hi oedd yn gyfrifol am gêm ail gyfle’r trydydd safle rhwng Sweden, a'r genedl lle cynhaliwyd y bencampwriaeth, Awstralia.
Cheryl Foster yw'r ddyfarnwraig gyntaf o Gymru i gael y chwiban yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ers Cwpan y Byd FIFA 1978. Mae hi hefyd wedi dyfarnu tair gêm arall yn y bencampwriaeth.
Yn sgil poblogrwydd cynyddol pêl-droed menywod, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi lansio academi ddyfarnu ar gyfer menywod a merched yn ddiweddar: Academi Dyfarnwyr Cynghreiriau'r Adran.
Mae'r academi hon yn rhaglen wedi'i thargedu a fydd yn recriwtio ac yn datblygu dyfarnwyr i ddyfarnu’r gêm gynyddol boblogaidd i fenywod yn effeithiol gyda swyddogion cyfatebol trwy gynghrair yr Adran Dan 19. Bydd yn llwyfan datblygu ar gyfer dyfarnwyr a chwaraewyr.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am yr academi yma.
Meddai Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy:
"Mae hi wedi bod yn flwyddyn wych i Cheryl, yn cynrychioli Cymru fel dyfarnwraig yng Nghwpan y Byd y Merched, a dyfarnu rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA!
"Mae Cheryl yn enghraifft wych o gefnogwyr pêl-droed ifanc, ac rwy'n falch bod ysbrydoliaeth fyd-eang o'r fath yn tarddu yng Ngogledd Cymru. Mae cynrychioli Cymru ar y lefel hon yn gamp arbennig.
"Rwyf mor falch o glywed bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru bellach yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cynnwys menywod mewn pêl-droed ar bob lefel. Ar hyn o bryd dim ond 50 o ddyfarnwyr benywaidd sydd gennym yng Nghymru gyfan. Mae cael modelau rôl amlwg, fel Cheryl, ar lefel mor uchel yn allweddol i newid hyn.
"Gyda dros 100 o fenywod a merched wedi cofrestru gyda gweithdai sefydlu Academi Dyfarnwyr Cynghreiriau’r Adran hyd yma, edrychaf ymlaen at weld llawer mwy o ddyfarnwyr o Gymru yn dyfarnu gemau ar bob lefel mewn blynyddoedd i ddod!"