Following a recent visit to Llandudno Bay Hotel, Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has spoken of her thanks to local hoteliers for their hard work during this busy season.
Llandudno’s private hoteliers provide a top-class tourism experience for those visiting, and help keep the town’s proud reputation of the ‘Queen of Welsh Resorts’.
The hotel owners of Llandudno play a key role in the town’s continued success as a tourist hub, with their beautiful hotels and B&Bs, restaurants that offer delicious meals, and wonderful customer service.
Speaking about the work of local hoteliers, Janet said,
“It is always a pleasure to see local businesses thriving, especially during Llandudno’s peak summer season.
“Our local hoteliers go above and beyond to provide a first-class holiday experience for tourists, and their hard work all year-round is truly appreciated.
“My recent visit to the wonderful Llandudno Bay Hotel showed me just how lucky we are to have such hard-working, dedicated teams working behind the scenes who ensure that each and every guest has a wonderful time here in Llandudno.
“A big thank you to the team at the Llandudno Bay Hotel, including General Manager Liam Donnelly, Operations Director Darryl Shaw, and Sebastian Gudek, owner of Enozzle, for hosting me.
“On my visit there, I heard about how they have installed the only Rapid Electric Vehicle Supercharger in Llandudno, which is clear proof of how our local hotels are constantly adapting in order to go above and beyond for their guests.
“It is their dedication to our lovely town that keeps tourists coming back year-on-year to appreciate what Llandudno and North Wales has to offer!.”
Yn dilyn ymweliad diweddar â Gwesty Bae Llandudno, mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi diolch i westywyr lleol am eu gwaith caled yn ystod y tymor prysur hwn.
Mae gwestywyr preifat Llandudno yn cynnig profiad twristiaeth o'r radd flaenaf i'r rhai sy'n ymweld, ac yn helpu i gadw enw da balch y dref fel 'Brenhines Cyrchfannau Cymru'.
Mae perchnogion gwestai Llandudno yn gwneud cyfraniad allweddol i lwyddiant parhaus y dref fel canolfan i dwristiaid, gyda'u gwestai a’u llefydd gwely a brecwast hardd, bwytai sy'n cynnig prydau blasus, a gwasanaeth gwych i gwsmeriaid.
Wrth siarad am waith gwestai lleol, meddai Janet,
"Mae bob amser yn bleser gweld busnesau lleol yn ffynnu, yn enwedig yn ystod tymor prysur yr haf.
"Mae ein gwestai lleol yn mynd y tu hwnt i’r hyn a ddisgwylir i ddarparu profiad gwyliau o'r radd flaenaf i dwristiaid, ac mae eu gwaith caled gydol y flwyddyn yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
"Dangosodd fy ymweliad diweddar â Gwesty hyfryd Bae Llandudno pa mor lwcus ydyn ni i gael timau mor weithgar ac ymroddedig yn gweithio y tu ôl i'r llenni yn sicrhau bod pob gwestai yn cael amser gwych yma yn Llandudno.
"Diolch yn fawr iawn i'r tîm yng Ngwesty Bae Llandudno, gan gynnwys y Rheolwr Cyffredinol Liam Donnelly, y Cyfarwyddwr Gweithrediadau Darryl Shaw, a Sebastian Gudek, perchennog Enozzle, am fy nghroesawu.
"Ar fy ymweliad yno, clywais sut maen nhw wedi gosod yr unig Uwch-wefrydd Cerbydau Trydan Cyflym yn Llandudno, sy'n brawf clir o sut mae ein gwestai lleol yn addasu'n gyson er mwyn mynd y filltir ychwanegol i'w gwesteion.
"Eu hymroddiad nhw i'n tref hyfryd sy'n denu twristiaid yn ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn i werthfawrogi'r hyn sydd gan Landudno a Gogledd Cymru i'w gynnig!"