Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has written to Betsi Cadwaladr University Health Board and Eluned Morgan MS, Minister for Health and Social Services, so to ask that consideration be given to investing some of the £2.7m made available to improve emergency departments and minor injury units, in Llandudno MIU.
The £2.7m funding pot was announced by the Welsh Government today, 3 January 2024.
Commenting on the potential of Llandudno MIU, Janet said:
“I wish to thank all the team at Llandudno Hospital. They provide an exceptional service that I am proud to champion in the Welsh Parliament.
“So far, our positive campaign has secured a series of measures such as a theatre being re-opened, a transition ward being trialled, a stroke unit being opened, an Orthopaedic Minor Operations Room opened, and £30m for a new Orthopaedic Hub.
“I have always been clear with the Health Board and Welsh Government that the major pressure on A&E in both Gwynedd and Glan Clwyd could be reduced if the range of conditions treated at Llandudno MIU, and its opening times, were extended. This is now a perfect opportunity to secure funding to help make those changes a reality.
“98.9% of patients spent less than four hours at Llandudno MIU in November 2023. We should be building on that brilliance!”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i ofyn am i ystyriaeth gael ei rhoi i fuddsoddi rhywfaint o'r £2.7m sydd ar gael i wella adrannau brys ac unedau mân anafiadau yn Uned Mân Anafiadau Llandudno.
Cyhoeddwyd y gronfa gyllid gwerth £2.7m gan Lywodraeth Cymru heddiw, 3 Ionawr 2024.
Wrth sôn am botensial Uned Mân Anafiadau Llandudno, dywedodd Janet:
“Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r tîm yn Ysbyty Llandudno. Maen nhw'n darparu gwasanaeth eithriadol yr wyf yn falch o'i hyrwyddo yn y Senedd.
“Hyd yma, mae ein hymgyrch gadarnhaol wedi sicrhau cyfres o fesurau megis ail-agor theatr, treialu ward bontio, agor uned strôc, agor Ystafell Mân Lawdriniaethau Orthopedig, a £30m ar gyfer Canolfan Orthopedig newydd.
“Rydw i bob amser wedi bod yn glir gyda'r Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru y gellid lleihau'r pwysau mawr ar yr adrannau damweiniau ac achosion brys yng Ngwynedd a Glan Clwyd pe bai’r ystod o gyflyrau sy'n cael eu trin yn Uned Mân Anafiadau Llandudno, a’i horiau agor, yn cael eu hymestyn. Mae hwn yn gyfle perffaith i sicrhau cyllid i helpu i wireddu'r newidiadau hynny.
“Treuliodd 98.9% o gleifion lai na phedair awr yn Uned Mân Anafiadau Llandudno ym mis Tachwedd 2023. Fe ddylen ni fod yn adeiladu ar y gwaith gwych hwnnw!”
DIWEDD