Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, is urging residents in Dolgarrog to check if they are eligible for a free UK Government Gigabit Voucher to help fund faster fibre.
Residents can check if they qualify and pledge their voucher on the Connect My Community website. Using the vouchers, which don’t cost residents anything, enables Openreach to work with a local community to build a customised, co-funded network. The vouchers can be combined to extend the ultrafast, ultra-reliable network to premises in outlying rural areas which won’t be covered by private investment.
At present, the Dolgarrog Exchange Project as raised £112,500 through 25 homes pledging their voucher to the community project.
Commenting on improving broadband in Dolgarrog, Janet said:
“35% of the funding required to improve broadband in Dolgarrog has been achieved so far.
“Residents in the area should check if they are eligible for a free UK Government voucher, and add it into the pot.
“Once the pledge target for the scheme is reached, residents need to ensure they then validate their vouchers with the UK Government so that Openreach can confirm that building work can get underway.”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, yn annog trigolion Dolgarrog i wirio a ydyn nhw'n gymwys i gael taleb Gigabit rhad ac am ddim llywodraeth y DU er mwyn helpu i ariannu ffeibr cyflymach.
Gall preswylwyr wirio a ydyn nhw’n gymwys a gwneud adduned am daleb ar wefan Connect My Community. Mae defnyddio'r talebau, nad ydyn nhw’n costio'r un geiniog i breswylwyr, yn galluogi Openreach i weithio gyda chymuned leol i adeiladu rhwydwaith wedi'i deilwra a'i ariannu ar y cyd. Gellir cyfuno'r talebau i ymestyn y rhwydwaith hynod gyflym a dibynadwy i ardaloedd gwledig anghysbell na fyddai buddsoddiad preifat yn eu cwmpasu.
Ar hyn o bryd, mae Prosiect Cyfnewidfa Dolgarrog wedi codi £112,500 wrth i 25 o gartrefi addunedu eu taleb i'r prosiect cymunedol.
Wrth sôn am wella band eang yn Nolgarrog, dywedodd Janet:
“Mae 35% o'r cyllid sydd ei angen i wella band eang yn Nolgarrog wedi'i gyflawni hyd yma.
“Dylai trigolion y fro wirio a ydyn nhw'n gymwys i gael taleb am ddim gan Lywodraeth y DU, a'i ychwanegu at y pot.
“Unwaith y cyrhaeddir targed adduned ar gyfer y cynllun, bydd angen i drigolion sicrhau eu bod nhw wedyn yn dilysu eu talebau gyda Llywodraeth y DU er mwyn i Openreach gadarnhau y gall gwaith adeiladu fynd rhagddo.”
DIWEDD