Janet Finch-Saunders MS, Shadow Minister for Climate Change, is calling on Welsh Government and the public to help save the last wild mussel bed in Wales and the United Kingdom: Conwy.
Conwy Mussels are hand-raked from where they naturally form on the seabed. They are larger in size, meatier and have a distinctive taste that rope grown mussels just don’t possess.
Unlike modern dredging, which can damage the fish, the way the mussel men of Conwy gather is completely natural.
90 fishermen worked on the Conwy River fishing for mussels. The number has dwindled to one family, headed by father and son, Trevor and Thomas Jones.
After visiting Trevor and Tom, Janet said:
“Sadly, the beds are in a terrible state, so the last wild mussel bed in Wales and the UK could be lost.
“The end of mussel harvesting in Conwy would be a cultural and environmental blow.
“Many authors have argued that carbon stored in shells represents a long‐term store, so by helping save Conwy mussels, we would be combating climate change.
“The future is not just down to the state. The public should use its purchasing power to buy Conwy mussels. They are delicious!”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders with Trevor and Thomas Jones, Conwy Mussels
Mae Janet Finch-Saunders AS, Gweinidog Newid Hinsawdd yr Wrthblaid, yn galw ar Lywodraeth Cymru a'r cyhoedd i helpu i achub y gwely cregyn gleision gwyllt olaf yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig: Conwy.
Mae cregyn gleision Conwy yn cael eu cribinio â llaw o'r man lle maen nhw’n ffurfio’n naturiol ar wely'r môr. Maen nhw’n fwy o ran maint, gyda mwy o gig arnyn nhw, ac mae ganddyn nhw flas unigryw na all cregyn gleision sy’n cael eu tyfu ar raffau gystadlu ag ef.
Yn wahanol i ddulliau carthu modern, sy’n gallu niweidio'r pysgod, mae'r ffordd y mae dynion hel cregyn gleision Conwy yn eu casglu yn gwbl naturiol.
Roedd 90 o bysgotwyr yn gweithio ar Afon Conwy yn pysgota cregyn gleision. Erbyn heddiw dim ond un teulu sydd ar ôl, dan arweiniad tad a mab, Trevor a Thomas Jones.
Ar ôl ymweld â Trevor a Tom, dywedodd Janet:
"Yn anffodus, mae'r gwelyau mewn cyflwr ofnadwy, felly mae’n bosib iawn y byddwn ni colli'r gwely cregyn gleision gwyllt olaf yng Nghymru a'r DU.
"Byddai diwedd cynaeafu cregyn gleision yng Nghonwy yn ergyd ddiwylliannol ac amgylcheddol.
"Mae llawer o awduron wedi dadlau bod carbon sydd wedi'i storio mewn cregyn yn cynnig storfa hirdymor, felly trwy helpu i achub cregyn gleision Conwy, byddem yn brwydro yn erbyn newid hinsawdd.
"Nid mater i'r wladwriaeth yn unig yw'r dyfodol. Dylai'r cyhoedd ddefnyddio ei bŵer prynu i brynu cregyn gleision Conwy. Maen nhw mor flasus!"
DIWEDD
Ffoto: Janet Finch-Saunders gyda Trevor a Thomas Jones, cwmni Conwy Mussels