Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is shocked to learn that Conwy County Borough Council is modelling a double digit council tax hike.
It has been discovered that a finance report for the cash strapped Council has modelled for an 11% rise in council tax. The Council is already in nearly £25 million of debt and as such has found itself modelling huge rises for ratepayers to address these arrears. Following last year's 9.9% hike, this additional burden could see Conwy residents grappling with a cumulative 20% rise in council tax within just 13 months.
This is terrible news with many citing concerns about affordability and the impact on local households already grappling with economic challenges.
Commenting on the news Janet said:
“This proposal stinks, and the source of the pollution lies right with Welsh Labour and Plaid Cymru in the Welsh Parliament.
“The provisional settlement from the Welsh Labour and Plaid Cymru cooperation Welsh Government for Conwy Council in 2024-25 is only £3,975 million more than 2023-24. This is the lowest increase in settlement across the whole of Wales.
“There is no doubt that the funding formula used by the Welsh Government to decide the allocation of money to local authorities in Wales is flawed – around 30% of the data used in the formula is long out of date. Some of it goes back to 1991!
“Therefore, I am expressing my support for a review of the formula and requiring any local authority proposing a council tax rise of over 5% to hold a local referendum and obtain a yes vote before implementing the proposed rise.
“Triggering referenda across Wales on council tax increases of 5% or more would increase public engagement in the budget setting process, engagement in democracy, and pressure on the Welsh Government to fairly fund local authorities.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy wedi dychryn clywed bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn modelu codiad treth gyngor digid dwbl.
Darganfuwyd bod adroddiad cyllid ar gyfer y Cyngor sy’n brin iawn o arian wedi modelu ar gyfer cynnydd o 11% yn y dreth gyngor. Mae'r Cyngor eisoes mewn bron i £25 miliwn o ddyled ac yn sgil hynny mae wedi gweld ei hun yn modelu cynnydd enfawr i drethdalwyr i fynd i'r afael â'r ôl-ddyledion hyn. Yn dilyn codiad o 9.9% y llynedd, gallai'r baich ychwanegol hwn olygu bod trigolion Conwy yn mynd i'r afael â chynnydd cronnus o 20% yn y dreth gyngor o fewn cwta 13 mis.
Mae hyn yn newyddion ofnadwy gyda llawer yn nodi pryderon am fforddiadwyedd a'r effaith ar aelwydydd lleol eisoes yn mynd i'r afael â heriau economaidd.
Wrth gyfeirio at y newyddion dywedodd Janet:
"Mae'r cynnig hwn yn warthus, a Llafur Cymru a Phlaid Cymru yn y Senedd yw ffynhonnell y llygredd.
"Mae'r setliad dros dro gan glymblaid Llafur Cymru a Phlaid Cymru ar gyfer Cyngor Conwy yn 2024-25 ddim ond yn £3,975 miliwn yn fwy na 2023-24. Dyma'r cynnydd isaf mewn setliad ledled Cymru gyfan.
"Does dim dwywaith fod y fformiwla ariannu sy'n cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru i benderfynu ar ddyraniad arian i awdurdodau lleol yng Nghymru yn ddiffygiol - mae tua 30% o'r data sy'n cael ei ddefnyddio yn y fformiwla wedi hen ddyddio. Mae peth ohono’n mynd yn ôl i 1991!
"Felly, rydw i o blaid adolygu'r fformiwla a’i gwneud yn ofynnol i unrhyw awdurdod lleol sy’n cynnig codiad treth gyngor o dros 5% i gynnal refferendwm lleol a chael pleidlais ar y mater cyn rhoi’r cynnydd arfaethedig ar waith.
"Byddai sbarduno refferenda ledled Cymru ar godiadau treth gyngor o 5% neu fwy yn cynyddu ymgysylltiad y cyhoedd yn y broses o osod cyllidebau, byddai’n sicrhau democratiaeth, ac yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ariannu awdurdodau lleol yn deg."
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS