Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy has welcomed criticism made by Mike Hedges MS on the new voting system for the next Senedd election.
The new Senedd Cymru (Members and Elections) Bill will bring huge changes for the upcoming Senedd elections. Under current plans there will be an additional 36 members brought in at a cost of around £12 million extra a year.
Alongside this, candidates at the next election will be elected through a “closed list” system. This will see voters only able to vote for their preferred party, not candidate. Candidates will then be elected through a system of proportional representation. At the last election voters got two votes, one for a politician elected through first past the post, and one for a party elected through a party list. The bill would see 16 constituencies in Wales, with six members in each.
These changes brought in by Labour and Plaid Cymru have sparked fierce criticism and widespread concern that the new system could reduce choice and erode trust in Senedd elections.
The Co-chair of the Commission, Prof Laura McAllister, fears the system has "major weaknesses" because it "removes the choice from electors to choose individual candidates. It seems odd to me that at a time when there's such a disconnect between the politicians and the public, we're disconnecting it further.”
However, more alarmingly, criticism is rumbling from within Labour itself with Mike Hedges MS commenting that: "I can't see any advantages of the system being proposed. ... Closed lists give all the power to political parties or leadership of political parties who will get to pick how high up the list you go. It will promote party-think and group-think."
Hearing all of this, Janet said:
“I completely agree with Mike Hedges criticism. The new Bill is completely unnecessary and on top of this will be incredibly confusing for our voters in Aberconwy. At a time when voter turnout at Senedd elections is already consistently below 50% we need to be doing more to encourage voters to the polls rather than alienating them.
“Where trust is concerned, 35% of the public still do not trust the Senedd. The use of a closed list will only make this worse. Is it truly democratic in an election to cast your vote for a political party instead of your favoured individual candidate? This is yet another step backwards for Wales and it is incredibly disrespectful of the Welsh Government towards the constituents of Aberconwy.
“It seems to me that this will incur dramatic changes to our constitution here in Wales. Given this, I do believe that we should have a referendum on a decision that will be so far reaching and powerful.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi croesawu beirniadaeth gan Mike Hedges AS o’r system bleidleisio newydd ar gyfer etholiad nesaf y Senedd.
Bydd y Bil (Aelodau ac Etholiadau) Senedd Cymru newydd yn cyflwyno newidiadau mawr i etholiadau nesaf y Senedd. O dan y cynlluniau cyfredol bydd 36 aelod arall yn cael eu cyflwyno ar gost o tua £12 miliwn yn fwy y flwyddyn.
Ochr yn ochr â hyn, bydd ymgeiswyr yn yr etholiad nesaf yn cael eu hethol drwy system “rhestr gaeedig”. Bydd etholwyr ddim ond yn gallu pleidleisio dros eu hoff blaid, nid ymgeisydd. Yna, bydd ymgeiswyr yn cael eu hethol drwy system gynrychiolaeth gyfrannol. Yn yr etholiad diwethaf, cafodd pleidleiswyr ddwy bleidlais, un i’r gwleidydd a etholwyd drwy system y cyntaf i’r felin, ac un i’r blaid a etholwyd drwy restr plaid. Byddai’r Bil yn gweld 16 o etholaethau yng Nghymru, gyda chwe aelod ym mhob un.
Mae’r newidiadau hyn a gyflwynwyd gan Llafur a Phlaid Cymru wedi ennyn beirniadaeth gref a phryder eang y gallai’r system leihau dewis a difetha’r ymddiriedaeth yn etholiadau’r Senedd.
Mae Cyd-gadeirydd y Comisiwn, yr Athro Laura McAllister, yn ofni bod gan y system “wendidau mawr” gan ei bod yn “cael gwared ar y dewis gan etholwyr i ddewis ymgeiswyr unigol. Mae’n ymddangos yn rhyfedd i mi, ar adeg pan mae cymaint o ddatgysylltiad rhwng y gwleidyddion a’r cyhoedd, ein bod yn ei ddatgysylltu ymhellach.”
Fodd bynnag, beth sy’n fwy brawychus yw’r gwrthwynebiad o fewn Llafur ei hun gyda Mike Hedges AS yn dweud: “Alla i ddim gweld unrhyw fanteision i’r system sy’n cael ei chynnig… Mae rhestri caeedig yn rhoi’r holl bŵer i bleidiau gwleidyddol neu arweinyddiaeth y pleidiau gwleidyddol a fydd yn cael penderfynu pa mor uchel ar y rhestr fyddwch chi. Bydd yn hyrwyddo ffordd plaid o feddwl a ffordd grŵp o feddwl.”
Wrth glywed hyn i gyd, meddai Janet:
“Dwi’n cytuno’n llwyr â beirniadaeth Mike Hedges. Mae’r Bil newydd yn hollol ddiangen ac ar ben hyn fe fydd yn andros o ddryslyd i’n pleidleiswyr yn Aberconwy. Ar adeg pan mae’r ganran sy’n pleidleisio yn etholiadau’r Senedd o dan 50% yn gyson mae angen i ni wneud mwy i annog pleidleiswyr i bleidleisio yn lle eu dieithrio.
“O ran ymddiriedaeth, nid yw 35% o’r cyhoedd yn ymddiried yn y Senedd o hyd. Bydd defnyddio rhestr gaeedig ond yn gwaethygu’r sefyllfa. Ydy pleidleisio dros blaid wleidyddol yn lle eich hoff ymgeisydd unigol yn gwbl ddemocrataidd mewn etholiad? Dyma gam arall yn ôl i Gymru ac mae’n dangos diffyg parch eithriadol gan Lywodraeth Cymru tuag at etholwyr Aberconwy.
“Mae’n ymddangos i mi y bydd hyn yn arwain at newidiadau dramatig i’n cyfansoddiad ni yma yng Nghymru. O ystyried hyn, rwy’n credu y dylem gael refferendwm ar benderfyniad mor bellgyrhaeddol a phwerus.”
DIWEDD
Llun: Janet Finch-Saunders AS