Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is delighted to see that former Plain Cymru leader Dafydd Wigley has now recognised that the new Senedd Cymru (Members and Elections) Bill stands to de-democratise Wales.
Speaking out on the matter Lord Wigley rightly explained that the new “closed list” system would destroy the relationship between voters and the people they elect. He said that “if you put all the power in the hands of a party machine, then it's the people who are going to serve the party best that will get the preference, as opposed to people who will be serving their constituents best”.
This is because the new Bill will affect how we in Wales elect our representatives. The designated format for this process is referred to as the “closed list” system, where voters are required to select a political party rather than an individual candidate. The candidates are then elected based on both the popularity of their respective parties and their position on the party's list.
As Janet noted last week:
“The use of a closed list will only stoke further mistrust of politicians. Is it truly democratic in an election to cast your vote for a political party instead of your favoured individual candidate?”
The comments by Lord Wigley are further proof that the proposed reform is entirely undemocratic and represents a very great danger to the legitimacy of devolution. Furthermore, we are now seeing significant cross-party support for the halting of such a dramatic constitutional change.
Commenting this week on the news Janet said:
“I am exceptionally pleased to see that the former Plaid leader has realised the potential consequences of this Bill. We are facing an important moment on the journey of devolution and it is imperative that we chose the right path, the democratic path.
“I note now that Lord Wigley joins Labour member Mike Hedges in the condemnation of the Bill, showing wide cross-party support exists in opposition to this Bill. It is time that the Welsh Government take this seriously and come to the table with a credible response to our fears that this Bill will de-democratise Wales. We must see this for what it is, blatant party cronyism.
“As I explained last week, such a dramatic change to the constitution cannot be decided by commissions, bureaucrats and the round table of Labour Ministers. We must be supporting calls for a referendum on a decision that will be so far reaching and powerful.”
ENDS
Photo: Janet Finch-Saunders MS/AS
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn falch iawn o weld bod cyn-arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley, bellach wedi cydnabod bod Bil newydd y Senedd (Aelodau ac Etholiadau) yn bygwth dad-ddemocrateiddio Cymru.
Wrth siarad ar y mater roedd yr Arglwydd Wigley yn llygad ei le yn esbonio y byddai'r system “rhestr gaeedig” newydd yn dinistrio'r berthynas rhwng y pleidleiswyr a'r bobl y maen nhw’n eu hethol. Meddai, “Os ydych chi'n rhoi'r holl bŵer yn nwylo peiriant plaid, yna'r bobl sy'n mynd i wasanaethu'r blaid orau fydd yn cael eu dewis, yn hytrach na’r bobl fydd yn gwasanaethu eu hetholwyr orau”.
Daw ei sylwadau ar sail y ffordd y bydd y Bil newydd yn effeithio ar sut rydyn ni yng Nghymru yn ethol ein cynrychiolwyr. Cyfeirir at y fformat dynodedig ar gyfer y broses hon fel y system “rhestr gaeedig,” lle mae'n ofynnol i bleidleiswyr ddewis plaid wleidyddol yn hytrach nag ymgeisydd unigol. Yna caiff yr ymgeiswyr eu hethol ar sail poblogrwydd eu priod bleidiau a'u safle ar restr y blaid.
Fel y nododd Janet yr wythnos diwethaf:
“Bydd defnyddio rhestr gaeedig yn tanseilio ymhellach ffydd pobl mewn gwleidyddion. Ydy hi’n wirioneddol ddemocrataidd mewn etholiad i fwrw eich pleidlais dros blaid wleidyddol yn hytrach na’r ymgeisydd unigol o’ch dewis?”
Mae'r sylwadau gan yr Arglwydd Wigley yn brawf pellach bod y diwygiad arfaethedig yn gwbl annemocrataidd ac yn peri risg sylweddol i ddilysrwydd datganoli. Hefyd, rydyn ni bellach yn gweld cefnogaeth drawsbleidiol sylweddol i atal newid cyfansoddiadol mor ddramatig.
Wrth gyfeirio at y mater yr wythnos hon dywedodd Janet:
“Rwy'n hynod falch o weld bod cyn-arweinydd Plaid wedi sylweddoli canlyniadau posibl y Bil hwn. Rydyn ni’n wynebu cyfnod pwysig ar daith datganoli ac mae'n hanfodol ein bod yn dewis y llwybr cywir, y llwybr democrataidd.
“Rwy'n nodi nawr bod yr Arglwydd Wigley yn ymuno â'r aelod Llafur Mike Hedges i gondemnio'r Bil, gan ddangos bod gwrthwynebiad trawsbleidiol eang i’r Bil hwn. Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru gymryd hyn o ddifrif a dod at y bwrdd gydag ymateb credadwy i'n hofnau y bydd y Bil hwn yn dad-ddemocrateiddio Cymru. Rhaid inni weld hyn am yr hyn ydyw, ffafriaeth amlwg rhwng dwy blaid.
“Fel yr eglurais yr wythnos diwethaf, ni allwn adael i benderfyniad ar newid mor ddramatig i'r cyfansoddiad gael ei wneud gan gomisiynau, biwrocratiaid a bwrdd crwn Gweinidogion Llafur. Rhaid i ni gefnogi galwadau am refferendwm ar benderfyniad a fydd mor bellgyrhaeddol a phwerus.”
DIWEDD
Ffoto: Janet Finch-Saunders AS