Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has welcomed the news that Transport for Wales are now working with Conwy County Borough Council and Gwyned County Council to “put together a robust forward plan for the bus network in the Cowny Valley”.
This positive news is the latest step in the major campaign Mrs Finch-Saunders has been running to improve public transport in the Conwy Valley after the loss if the T19 bus service between Llandudno and Blaenau Ffestiniog.
Since founding a petition to try and save the T19 which secured over 700 signatures, the Member has been pleased to see:
- Llew Jones deliver the X19 between Llandudno and Betws-y-Coed;
- Alpine Travel extend the Fflecis service to Dolwyddelan;
- And now the Welsh Government take action to ensure that plans are worked on to develop a robust plan for a bus network in the Conwy Valley.
Writing to Mrs Finch-Saunders, Lee Waters MS, Deputy Minister for Climate Change, stated:
“Transport for Wales (TfW) are also currently working closely with Conwy and Gwynedd Council’s to put together a robust forward plan for the bus network in the Conwy Valley as part of a wider plan for north Wales, which will provide the bridge towards franchising, and this will seek to ensure that bus services are more closely integrated with services on the Conwy Valley rail line backed up by a more comprehensive ticketing offer for passengers.”
Commenting on the latest development in her long running campaign, Janet said:
“I would like to thank Llew Jones and Alpine Travel for their positive cooperation.
“It is not the bus sector letting us down. It is the Welsh Government, Conwy Council, and Gwynedd Council who have failed to step up quickly to stop the loss of a vital transport link.
“I welcome the fact that my work has now resulted in the public sector finally cooperating to develop a robust forward plan for the bus network in the Conwy Valley”.
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o'r Senedd dros Aberconwy, wedi croesawu'r newyddion bod Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Gwynedd erbyn hyn i “lunio blaengynllun cadarn ar gyfer y rhwydwaith bysiau yn Nyffryn Conwy”.
Y newyddion cadarnhaol hyn yw'r cam diweddaraf yn yr ymgyrch fawr mae Mrs Finch-Saunders wedi bod yn ei chynnal i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn Nyffryn Conwy ar ôl colli'r gwasanaeth bws T19 rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog.
Ers trefnu deiseb i geisio achub y T19 a lofnodwyd gan dros 700 o bobl, mae'r Aelod wedi bod yn falch o weld:
- Llew Jones yn cyflwyno'r X19 rhwng Llandudno a Betws-y-coed;
- Alpine Travel yn ymestyn y gwasanaeth Fflecsi i Ddolwyddelan;
- A nawr Llywodraeth Cymru yn gweithredu i sicrhau bod cynlluniau'n mynd rhagddynt i ddatblygu cynllun cadarn ar gyfer rhwydwaith bysiau yn Nyffryn Conwy.
Wrth ysgrifennu at Mrs Finch-Saunders, dywedodd Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd:
“Mae Trafnidiaeth Cymru’n gweithio'n agos gyda Chynghorau Conwy a Gwynedd hefyd ar hyn o bryd i lunio blaengynllun cadarn ar gyfer y rhwydwaith bysiau yn Nyffryn Conwy fel rhan o gynllun ehangach ar gyfer y Gogledd, a fydd yn darparu'r bont tuag at fasnachfreinio, a bydd hyn yn ceisio sicrhau bod gwasanaethau bysiau wedi'u hintegreiddio'n agosach â gwasanaethau ar linell reilffordd Dyffryn Conwy, ac wedi'u hategu gan gynnig tocynnau mwy cynhwysfawr ar gyfer teithwyr.”
Wrth sôn am y datblygiad diweddaraf yn ei hymgyrch hirhoedlog, dywedodd Janet:
“Hoffwn i ddiolch i Llew Jones ac Alpine Travel am eu cydweithrediad cadarnhaol.
“Nid y sector bysiau sy'n ein siomi ni. Llywodraeth Cymru, Cyngor Conwy a Chyngor Gwynedd sydd wedi methu â chymryd camau cyflym i atal colli cyswllt trafnidiaeth hanfodol.
“Rwy'n croesawu'r ffaith bod fy ngwaith wedi arwain bellach at y sector cyhoeddus yn cydweithio o'r diwedd i ddatblygu blaengynllun cadarn ar gyfer y rhwydwaith bysiau yn Nyffryn Conwy”.
DIWEDD
Ffotograff:
Janet Finch-Saunders AS