Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy has written to the Minister for Rural Affairs to outline her condemnation at the state of Welsh farming policy.
In her letter Janet explains that the Wales version of the bTB chart is seriously harming her constituents, some of whose businesses are placed under extreme restrictions for a bTB reading that would have been deemed acceptable in England and Scotland.
This is having serious consequences for farmers with NFU Cymru reporting in a survey last year that 85% of respondents said bTB had negatively impacted their own mental health or someone in their family.
Additionally, there is concern amongst farmers that it isn’t even their own livestock causing the spread of bTB. 88.9% farmers felt that it was not their livestock causing the issue but wildlife, such as badgers and deer, showing again that the Welsh Government are really struggling to understand the wider farming picture.
What is most concerning though is the Sustainable Farming Scheme that is being proposed. This will in essence reward farmers for turning land they use for food production and their income into forests and wooded areas, all so the Welsh Government can meet their target of Net Zero by 2050.
Commenting on this Janet said
“The Welsh Government have completely missed the mark here. At a time of low economic growth the Government should be implementing policies that help get us back on our feet.
“The Sustainable Farming Scheme is a prime example of a completely ill thought out policy that will not only hinder farmers and their ability to turn a profit but will also reduce Wales’s food production.
“We need policies that encourage growth in agriculture, not more barriers. The idea that farmers need government intervention to force them into planting trees is barbaric. A farmers job is to be sustainable so rather than teaching farmers to suck eggs the Welsh Government must scrap this inefficient scheme and rethink how they are going to support our farmers.”
ENDS
Photo: Llanwrst Show
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi ysgrifennu at y Gweinidog Materion Gwledig i amlinellu ei dicter gyda chyflwr polisi ffermio Cymru.
Yn ei llythyr eglura Janet fod fersiwn Cymru o'r siart bTB yn niweidio ei hetholwyr yn ddifrifol, a bod rhai o'u busnesau’n cael eu gosod dan gyfyngiadau eithafol ar gyfer darlleniad bTB a fyddai wedi cael ei ystyried yn dderbyniol yn Lloegr a'r Alban.
Mae hyn yn arwain at ganlyniadau difrifol i ffermwyr, gydag NFU Cymru yn dweud mewn arolwg y llynedd bod 85% o'r ymatebwyr yn dweud bod bTB wedi effeithio'n negyddol ar eu hiechyd meddwl nhw neu rywun yn eu teulu.
Hefyd, mae pryder ymysg ffermwyr nad eu da byw nhw sydd hyd yn oed yn achosi lledaeniad bTB. Roedd 88.9% o ffermwyr yn teimlo nad eu da byw nhw oedd yn achosi'r broblem ond bywyd gwyllt, fel moch daear a cheirw, sy’n dangos eto bod Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anodd iawn deall y darlun cyflawn o safbwynt amaeth.
Yr hyn sy’n achosi’r pryder mwyaf, serch hynny, yw'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy'n cael ei gynnig. Bydd hyn yn ei hanfod yn gwobrwyo ffermwyr am droi tir y maen nhw’n ei ddefnyddio ar gyfer cynhyrchu bwyd a'u hincwm yn goedwigoedd ac ardaloedd coediog, a hynny er mwyn i Lywodraeth Cymru allu cyrraedd ei tharged o Sero Net erbyn 2050.
Wrth sôn am hyn dywedodd Janet
"Mae Llywodraeth Cymru wedi methu'n llwyr yma. Ar adeg o dwf economaidd isel, dylai'r Llywodraeth fod yn gweithredu polisïau sy'n helpu i'n cael yn ôl ar ein traed.
"Mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn enghraifft wych o bolisi sy’n draed moch – polisi a fydd nid yn unig yn rhwystro ffermwyr a'u gallu i wneud elw ond a fydd hefyd yn lleihau cynhyrchiant bwyd Cymru.
"Mae angen polisïau arnom sy'n annog twf mewn amaethyddiaeth, nid mwy o rwystrau. Mae'r syniad bod angen ymyrraeth gan y llywodraeth i orfodi ffermwyr i blannu coed yn farbaraidd. Rôl ffermwyr yw bod yn gynaliadwy felly yn hytrach na dysgu pader i berson, dylai Llywodraeth Cymru roi’r gorau i’r cynllun aneffeithlon hwn ac ailystyried sut maen nhw'n mynd i gefnogi ein ffermwyr."
DIWEDD
Ffoto: Janet Finch-Saunders