Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy was delighted to host the Welsh Conservative Conference on Friday in her hometown of Llandudno.
The event kicked off with Janet delivering opening remarks where she praised the hard work of Welsh Conservatives members. She rightly drew attention to the dire state that Wales is in thanks to the continued mismanagement of Welsh Labour.
She was pleased to see local farmers on the promenade outside the conference, who came to voice their anger at the Welsh Government’s proposed Sustainable Farming Scheme.
It was also a pleasure to see the Right Honourable Rishi Sunak MP who came to deliver a rousing speech about his vision for Wales and the UK as a whole. He participated in a Q&A where he was questioned on the what he thought his priorities for Wales would be, and went out to meet with the farmers.
Lastly, Janet chaired a debate for Councillors on how they can boost their communities.
Commenting on conference Janet said:
“I was absolutely thrilled to host conference in Llandudno. It really was a very good day, meeting old friends, making new ones and pooling out ideas on how we can best address the problems that Wales faces today.
“I thank the farmers for the impressive turn out, and the Prime Minister for taking the time to speak and listen to them. I had some very good discussions with local farmers and assured them I would do all in my power to try and prevent the Sustainable Farming Scheme from being implemented.
“The panel I chaired talked about some of the obstacles that one would face in local government, especially the unfair funding formula used by the Welsh Government.
“It was a tremendous day. It showed how strong the Welsh Conservatives are and how ready we are to take on the Welsh Government.”
ENDS
Photos: Janet Finch-Saunders MS at conference
Roedd Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn falch iawn o groesawu Cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig i'w milltir sgwâr yn Llandudno ddydd Gwener.
Dechreuodd y digwyddiad gyda Janet yn cyflwyno sylwadau agoriadol yn canmol gwaith caled ei chynghorwyr Ceidwadol lleol, y Ceidwadwyr Cymreig a'i hetholwyr. Tynnodd sylw, yn gwbl briodol, at y sefyllfa enbyd y mae Cymru ynddi diolch i gamreoli parhaus Llafur Cymru.
Roedd hi'n hynod o falch o weld ffermwyr Conwy yn ymgynnull ar y prom y tu allan i'r gynhadledd i leisio eu dicter ynglŷn â Chynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru a fyddai'n eu gorfodi i ildio tir yn gyfnewid am gymorthdaliadau.
Roedd hefyd yn bleser gweld y Gwir Anrhydeddus Rishi Sunak, yr Aelod Seneddol, a ddaeth i draddodi araith gyffrous am ei weledigaeth ar gyfer Cymru a'r DU gyfan. Cymerodd ran mewn sesiwn holi ac ateb lle cafodd ei holi am yr hyn fyddai ei flaenoriaethau ar gyfer Cymru.
Yn olaf, cadeiriodd Janet ddadl ar gyfer Cynghorwyr ar sut y gallan nhw roi hwb i'w cymunedau. Gwelwyd y pedwar cynghorydd yn cael eu holi sut y gallwn ysgogi nifer fwy o gynghorwyr i gymryd mwy o ran yn eu cymunedau?
Wrth sôn am y gynhadledd dywedodd Janet:
“Roeddwn wrth fy modd yn cael croesawu'r gynhadledd i Landudno eleni eto. Roedd hi'n ddiwrnod da iawn, cael cwrdd â hen ffrindiau, gwneud rhai newydd a rhannu syniadau ar sut gallwn ni fynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu Cymru heddiw.
“Roeddwn i'n hapus dros ben i weld y ffermwyr yn dod yn llu i leisio eu pryderon am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Rydw i wedi cael trafodaethau da iawn gyda ffermwyr lleol ac wedi eu sicrhau y byddwn yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i geisio atal y polisi sosialaidd hwn rhag cael ei weithredu.
“Fe wnaethon ni hefyd glywed gan undebau ffermwyr Cymru a'u barn am y Cynllun Ffermio Cynaliadwy - roedd yr ystafell dan ei sang wrth i ni wrando ar arweinwyr yr undebau yn esbonio sut y byddai'r Cynllun yn effeithio arnyn nhw a beth fydden nhw eisiau ei newid.
“Roedd y panel a gadeiriais yn ddiddorol iawn. Clywsom gan rai hen gydweithwyr i mi a esboniodd fanteision bod mewn llywodraeth leol a faint o wahaniaeth y gall rhywun ei wneud fel cynghorydd. Buom yn siarad am rai o'r rhwystrau y mae rhywun yn eu hwynebu mewn llywodraeth leol a sut i'w goresgyn.
“Roedd yn ddiwrnod gwych gyda llawer o drafod, syniadau da a sut y gallem ymateb i'r heriau y mae Cymru'n eu hwynebu. Roedd yn dangos pa mor gryf yw'r Ceidwadwyr Cymreig a pha mor barod ydyn ni i fynd benben â Llywodraeth Cymru.”