Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, is delighted to learn that the UK Conservative Government has bought the vast Wylfa nuclear site on Anglesey.
In the budget announcement made yesterday, Rt Hon Jeremy Hunt announced that the Government has successfully secured the former Wylfa nuclear site. He confirmed the completion of an agreement with the owners, Hitachi, for the purchase of both the Wylfa and the Oldbury site in Gloucestershire. The acquisition cost for both sites is set at £160 million.
For more than four decades, the Wylfa nuclear site supplied electricity to millions of homes across North Wales until its decommissioning in 2015. Subsequent discussions regarding a new power station, Wylfa Newydd, have faced significant obstacles.
Mr. Hunt also verified that the Government is moving forward with the subsequent stage of its small nuclear reactor program. The initiative is positioned to serve as a significant contributor, working alongside large-scale nuclear projects, such as those at Hinkley and Sizewell, as a low-carbon alternative to fossil fuels.
Commenting on the news, Janet said:
“This is wonderful news. After Hitachi abandoned their plans over four years ago and threw the whole project into jeopardy, it is a triumph for North Wales to see plans for a new reactor moving forward.
“It is a testament to the levelling up agenda put forward by this Conservative Government. This project will see sustained investment in North Wales and the creation of hundreds, if not thousands, of jobs. It will also safeguard our green energy supply for years to come and push us further towards this Government’s net-zero target.
“This purchase is a major step towards delivering new nuclear in Ynys Môn.”
ENDS
Photo: Wylfa Nuclear Site - Author Anonymous
- CC BY-SA 2.0
- File: Outfall from Wylfa Power Station - geograph.org.uk - 668216.jpg
- Created: 21 May 2007
Mae Janet Finch-Saunders, AS Aberconwy, wrth ei bodd o glywed bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi prynu safle niwclear Wylfa Ynys Môn.
Yng nghyhoeddiad y gyllideb ddoe, dywedodd y Gwir Anrhydeddus Jeremy Hunt fod y Llywodraeth wedi llwyddo i sicrhau hen safle niwclear Wylfa. Cadarnhaodd fod cytundeb wedi ei gwblhau gyda'r perchnogion, Hitachi, ar gyfer prynu safle Wylfa ac Oldbury yn Swydd Gaerloyw. £160 miliwn yw cost caffael y ddau safle.
Am bedwar degawd a mwy, roedd safle niwclear Wylfa yn cyflenwi trydan i filiynau o gartrefi ledled y Gogledd nes iddo gael ei ddatgomisiynu yn 2015. Mae trafodaethau dilynol ynglŷn ag atomfa Wylfa Newydd, wedi wynebu rhwystrau sylweddol.
Hefyd, cadarnhaodd Mr Hunt fod y Llywodraeth yn symud ymlaen gyda cham dilynol ei rhaglen adweithyddion niwclear bach. Mae'r fenter mewn sefyllfa i fod yn gyfrannwr sylweddol, gan weithio ochr yn ochr â phrosiectau niwclear ar raddfa fawr, fel rhai Hinkley a Sizewell, fel dewis arall carbon isel yn lle tanwyddau ffosil.
Wrth ymateb i'r newyddion, dywedodd Janet:
“Mae'n newyddion gwych. Ar ôl i Hitachi roi'r gorau i'w gynlluniau dros bedair blynedd yn ôl a gadael yr holl brosiect yn y fantol, mae'n wych i'r Gogledd bod cynlluniau ar gyfer adweithydd newydd yn symud ymlaen.
“Mae'n brawf o agenda 'ffyniant bro' y Llywodraeth Geidwadol hon. Bydd y prosiect hwn yn golygu buddsoddiad parhaus yng ngogledd Cymru ac yn creu cannoedd os nad miloedd o swyddi. Bydd hefyd yn diogelu ein cyflenwad ynni gwyrdd am flynyddoedd i ddod ac yn hwb pellach i darged sero-net y Llywodraeth hon.
“Mae'r pryniant hwn yn gam mawr tuag at gyflenwi ynni niwclear newydd ym Môn.”
DIWEDD